Un tro, eisteddai Daf y gath yn yr ardd, yn gwylio’r holl syrcas. Sai’n teimlo fel prif gymeriad yn fy straeon fy hunan rhagor, meddyliodd. Aeth i gael sgwrs gydag Eifion yr Octopws, ond doedd Eifion ddim ar gael. Roedd e’n rhedeg o gwmpas gyda’r enwog Bryn Terfel. Trodd Daf at Jeff, ei chwaer. –…
Month: March 2023
504: Esgidiau
Mae esgidiau Dewi Sant yn draed moch. Â dweud y gwir, mae Dewi Sant ei hun yn draed moch, ond gadewch i ni ganolbwyntio ar ei esgidiau. Byddai’n well gyda Daf y gath beidio canolbwyntio ar esgidiau Dewi Sant oherwydd eu drewdod nhw. Wedi’r cwbl, maen nhw’n gannoedd o flynyddoedd oed. Mae Santes Non, mam…
503: Mam Dewi Sant
Mae mam Dewi Sant wedi troi lan yn yr ardd. Non yw ei henw hi. Santes Non. – Mae gormod o seintiau a phobl hanesyddol fan hyn y dyddie ‘ma, meddai Daf y gath, ond dyw Santes Non ddim yn gwrando. Mae hi’n edrych ar gyflwr y tu mewn i sied Dewi Sant a gwylltio…
502: Parti
Mae Dewi Sant yn cynnal parti. Wel, mewn gwirionedd, mae Santes Dwynwen yn cynnal parti i ddathlu Dewi Sant, gan fod Dewi Sant yn gwbl analluog ar drip catnip uffernol o wael unwaith eto. Wrth i bawb arall fwynhau cwstard a gwin, mae Dewi Sant yn chwydlyd iawn, ac mae ofn dwys arno fe gan…
