Mae Eifion yr octopws ar ben ei ddigon. Mae e wedi dwyn tun rhostio’r enwog Bryn Terfel unwaith eto, ac mae e’n defnyddio’r tun rhostio fel bath. Mae’r tun rhostio’n gyffyrddus iawn. Felly, mae Eifion yr octopws yn hapus iawn, iawn. Mae Eifion ar ben ei ddigon gyda’r tun rhostio. Nid yw’r enwog Bryn Terfel…
Month: March 2023
524: Boch i foch
Mae Dewi Sant wedi dod o hyd i’w hen drofwrdd o dan y sbwriel wrth glirio ei sied. Gramoffon mecanyddol yw e, gyda chorn. Mae pentwr o hen recordiau, sydd yn dyddio’n ôl i’r pedwardegau, hefyd. Ydy’r trofwrdd yn dal i weithio? Gadewch i ni weld. Mae Dewi’n cylchdroi’r handlen sawl gwaith. Ydy! Mae cerddoriaeth…
523: Man a man
Mae gan Daf y gath syniad am fenter newydd. Mae hi’n mynd i ddelio cyffuriau o dan y bont ger yr ardd. – Ond shwd ti mynd i gael gafael ar gyffurie go iawn? gofyn Jeff i’w chwaer. – Fi ddim, meddai Daf. – Fi’n mynd i gymysgu catnip â blawd, dyna i gyd. –…
522: Clustiau
Mae Daf y gath yn gwylio Dewi Sant yn tacluso ei sied. Mae sied Dewi Sant yn llawn dop o sbwriel. Mae Dewi lan at ei glustiau mewn sbwriel. Sant anhrefnus iawn yw Dewi Sant. Mae’r holl lanast yn codi cywilydd ar fam Dewi, sef Santes Non. Mae hi wedi bod yn gweiddi ar Dewi,…
521: Daw eto haul ar fryn
Mae Jeff y gath yn drist. Mae’n bwrw glaw yn ddi-baid, ac felly does dim cyfle iddi hela llygod. Mae hi’n dioddef o iselder. – Paid becso, Jeff, meddai Daf ei chwaer. – Daw eto haul ar bryn. – Ti ‘di camdreiglo eto, meddai Jeff, yn rholio ei llygaid. – ‘Daw eto haul ar fryn’…
520: Wyth coes
Mae Dafydd Iwan wedi dod â llwyth o fananas i’r ardd i’r enwog Bryn Terfel. Mae Bryn Terfel yn hoff iawn o fananas. Diolch, Dafydd Iwan! Ond mae problem. Does neb wedi gwirio o flaen llaw a oes teithwyr ar y bananas. Yn wir, mae teithwyr ar y bananas. Llawer o deithwyr. Teithwyr â wyth…
519: Soffa
Mae soffa wedi ymddangos yn yr ardd. Ffoadur o’r saithdegau yw’r soffa, ac yn hollol lwydfelyn. Mae Bryn Terfel yn hoff iawn o’r soffa newydd. Mae e’n canu caneuon opera iddi hi, wrth wisgo tun rhostio fel het ysblennydd. Mae e’n anwesu’r soffa fel anifail anwes, sydd ddim yn iasol o gwbl. Ond mae Santes…
518: Cerdyn Post
Mae Daf y Gath wedi derbyn cerdyn post. Mae llun o Aberaeron ar y ffrynt a rhifau dirgel ar y cefn. Dyw Daf ddim yn nabod yr ysgrifennwr, ac mae’r neges sydd ar y cerdyn yn gofyn cwestiynau personol. Mae ofn ar Daf bod rhywun yn ysbïo arni hi. – Y dwpsen, meddai Jeff ei…
517: Adeg y gwyfynod cawraidd
Ben bore, cyn codiad yr haul, mae Jeff y gath yn dod â gwyfyn anferth i’r ardd wedi noson lwyddiannus o hela. Dwywaith ei maint yw e. Dyw’r gwyfyn ddim yn hapus o gwbl. – Ble gest ti hwnna? gofyn Daf y gath i’w chwaer. – Pam? meddai Jeff a’i cheg yn llawn o lwch…
516: Hunllef Santes Dwynwen
Mae Santes Dwynwen yn cael hunllef oherwydd ei gorbryder. Mae hi ar lwyfan, o flaen cynulleidfa o gannoedd o Gymry di-gymraeg. Mae hi i fod i ddysgu iddyn nhw siarad yr iaith. Mae hi wedi paratoi adnoddau. Mae hi’n mynd i wneud jig-so mil darn ar fwrdd er mwyn esbonio treigladau. Ond mae darnau ar…
