– Daf, meddai Jeff y gath un tro, – wyt ti’n ofergoelus? – Nadw, ateb Daf. – Sai’n credu yn yr holl rwtsh ‘na am drafferthion yn cael eu hachosi gan gathod du yn croesi dy lwybr. – Na finne, meddai Jeff. – Ond ‘drych draw fan ‘na. Mae cath du yn croesi llwybr Dewi…
Month: March 2023
514: Yr asesiad
Mae’r Esgob wedi mynnu bod Dewi Sant yn cael asesiad. Dim ond esgus iddo fe ddiswyddo Dewi Sant yw’r asesiad. Ond beth fydd yn cael ei asesu? Dim byd. Ond mae angen i bopeth ymddangos mor swyddogol â phosib er mwyn i gynllun yr Esgob weithio, felly mae Dewi Sant yn gorfod mynychu “canolfan asesu”…
513: Pibell
Yn ôl ei harfer, mae Santes Dwynwen wrthi’n gwneud ei chwstard cariad. Mae pawb yn casáu’r stwff talpiog, di-flas, ond mae’r santes annwyl yn ei wneud e trwy’r amser. Yn y cyfamser, mae’r bin gramadegol wedi bod yn cywiro treigladau pawb. Am drallod. Mae Daf y gath yn cael syniad o sut i wneud iddo…
512: Y bin
Mae Dewi Sant wedi taflu ei bysgod a sglodion yn y bin gan nad oes pys potsh. Am wastraff! Ond mae’r bin yn ddiolchgar iawn. – Ga i kebab hefyd? gofyn y bin. – Ble mae dy dreiglad meddal di? Dylet ti fod wedi gofyn am gebab, meddai Daf y gath. – Mae kebab yn…
511: Pys potsh
Mae Santes Non wedi diflannu mewn fortecs uffernol, felly mae Dewi Sant a Daf y gath yn medru mwynhau eu pysgod a sglodion mewn hedd. Ond mae problem. Mae rhywun wedi anghofio’r pys potsh. – Allwn ni ddim bwyta pysgod a sglodion heb bys potsh, meddai Dewi Sant yn siomedig. – Cytuno, meddai Daf y…
510: Brechdan caws
Mae Santes Non yn gwneud brechdan caws ar gyfer ei Hannwyl Dewi Bach. Ond does dim picl yng nghwpwrdd Dewi Sant. Ond mae pot gwydr o rhywbeth tywyll. Mae arogl amheus arno, ond bydd rhaid iddo wneud y tro am nawr. Mae hi’n lledaenu’r tywyllwch ar y bara. Mae Dewi Sant a Daf y gath…
509: Aros
Mae Dewi Sant yn aros am ei bysgod a sglodion. Mae’r ciw yn hir iawn. Mae e’n aros ers oriau. Mae e ae fin rhoi’r gorau i’r syniad o fwyta heno a tharo’r botel yn ei le. Ond mae Daf y gath yn mynd i achub y dydd. Mae hi’n rhedeg i’r siop sglods ac…
508: Brathu
Mae’n amser gwely. Ond mae Daf y gath wedi dechrau brathu bron i bopeth. Mae Daf wedi penderfynu taw amser chwarae yw e. Dyw e ddim. Mae’r staff eisiau cysgu, ond mae Daf am chwarae. Mae hi’n brathu eu coesau, eu bysedd traed, a’u dwylo yn ddi-baid. Yn y pen draw, mae’r staff yn gadael…
507: Cyfweliad
Mae Santes Non i fod i gael cyfweliad gyda rhywun o’r papur newydd lleol. Cyhoeddon nhw lythyr ganddi, yn cwyno am Dewi Sant a’i fudreddi, a gafodd ymateb mawr gan eu darllenwyr. Mae pawb yn cydymdeimlo â Santes Non. Pawb, hynny yw, ar wahân i Dewi Sant ei hun. Mae Daf y gath yn penderfynu…
506: Bachgen drwg
Mae Dewi Sant wedi bod yn fachgen drwg eto, yn ôl ei fam, sef Santes Non. Ar ôl iddo fe fethu prynu esgidiau newydd, mae e wedi gwrthod cadw ei sied yn daclus, ac mae e wedi bod yn siarad â bwyd yn llond ei geg. Mae Dydd Sul y Mamau’n agosáu. Ond mae Dewi…
