Mae’n bwrw glaw heddiw, ac mae pawb heblaw am Dafydd Iwan yn ymlochesu yn sied Dewi Sant. Ar y llaw arall, mae Dafydd Iwan yn gorwedd mewn bádd tun. Yn y glaw. Fel ei arfer. Yn anffodus, mae ei fadd e’n dechrau gorlifo, ac yn fuan mae’r ardd dan ddŵr. Mae Dafydd Iwan yn arnofio…
Month: February 2023
480: Mwd
Mae Dewi Sant wedi bod yn rholio yn y mwd gyda Santes Dwynwen. Mae’r ddau’n frwnt tu hwnt. Ydyn nhw ar y catnip? Nac ydyn. Maen nhw wedi bwyta gormod o gwstard Santes Dwynwen. Mae hi wedi defnyddio rysáit newydd, sydd yn un rhithbair. Pwy a ŵyr beth sydd ynddo. Mae Daf y gath yn…
479: Dychwelyd
Mae’r Cyn-Brifdaten wedi dychwelyd i’r ardd a dechrau cwyno am y Prifdaten cyfredol. Mae hi’n ebychu bod popeth o’i le. Yn anffodus mae hi’n iawn, ond am y rhesymau anghywir, gan fod y tatws yn dal i fod yn gwbl afreolus, ac mae’r Prifdaten cyfredol yn dal i arllwys olew olewydd dros y lle i…
478: Olew olewydd
Mae’r Prifdaten yn achosi trafferth eto. Byth ers i’r Prifdaten gael ei benodi, mae e wedi bod yn arllwys olew olewydd dros wallt pawb wrth floeddio am wasanaethau ariannol. Am lanast. Yn y cyfamser, mae’r tatws eu hunain yn rhedeg yn wyllt. Maen nhw allan o reolaeth. Maen nhw’n dwyn peli jyglo’r chwarter-siarc, a chwarae…
477: Setiau teledu
Mae pentwr o setiau teledu wedi ymddangos yn yr ardd. Mae Bryn Terfel yn dychwelyd o’i arhosiad yn nhŷ y Corinthiaid a gweld y setiau teledu. Mae e’n tynnu’r tun rhostio ei fod yn gwisgo fel het ysblennydd, a dechrau canu cân operatig drasig am y setiau teledu marw. Tra bod Bryn Terfel yn canu…
476: Cais
Mae Dewi Sant wedi anfon cais ysgrifenedig am wythnos o wyliau at swyddfa’r Esgob. Mae e eisiau mynd dramor i weld cwpl o seintiau eraill yn Ewrop. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, dyma fe’n derbyn llythyr mewn amlen goch. – Mae’r Esgob hefyd ar streic! ebycha Dewi Sant. – Falle bod egwyddorion ‘da fe wedi’r cwbl, awgryma…
475: Ar streic
Mae Daf y gath ar streic. Dyw hi ddim yn gwneud ei dosbarthiadau heddiw. Mae hi wedi parcio ei fan wrth ymyl gwely’r rhosod, a dyna ni. – Ond, ‘set ti’n mynd mas ar streic, pwy sy’n mynd i dalu am y catnip? meddai Jeff ei chwaer. – Neb, meddai Daf. – Mae rhaid gweithredu…
