Mae Daf y gath yn treulio amser yng nghwmni Dewi Sant. Mae Daf yn hoff iawn o Dewi Sant gan ei fod yn was bach pan mae e wedi meddwi. Heddiw, mae Daf y gath yn gofyn yr un cwestiwn drosodd a throsodd. – Ga i fisged? -Cei. Mae hi wedi gofyn y cwestiwn cannoedd…
Month: February 2023
490: Galwad
Mae Bryn Terfel wedi bod yn rhedeg o gwmpas yr ardd gymaint fel bron nad yw e’n gallu anadlu. Yn sicr, dyw e ddim yn gallu canu. Ond mae’n bwysig osgoi’r Chwiliadlys Plwyf, yr Esgob, a’r rac. Does neb yn gallu ei ddal e. Yn sydyn, fe ddaw galwad ar ffôn symudol yr Esgob. Mae…
489: Chwiliadlys
Dyw’r Esgob ddim yn hapus bod Bryn Terfel wedi bod yn gwisgo ei het bigfain ysblennydd. Mae e eisiau cynnal Chwiliadlys Plwyf. Mae e wedi gosod rac newydd yn yr ardd. Mae e wedi addurno’r rac â pheli gwydr a thinsel. Mae’r Esgob a’i chwilyswyr yn holi pawb am yr enwog Bryn Terfel a’i obsesiynau…
488: Niwl
Mae’n niwlog heddiw. Mae popeth wedi diflannu. Popeth, hynny yw, heblaw am het yr Esgob, sydd yn dal i gael ei gwisgo gan yr enwog Bryn Terfel. Dyw Bryn Terfel ddim yn rhedeg o gwmpas erbyn hyn. Mae’n rhy beryglus yn y niwl. Mae Daf y gath wedi penderfynu cael cyntun yn hen dun rhostio…
487: Het yr Esgob
Mae gan yr Esgob het bigfain ysblennydd. Mae e’n gwisgo ei het bigfain ysblennydd pryd bynnag mae e eisiau ymddangos yn bwysig. Does dim ots gan Dewi Sant am hetiau. Mae’r Esgob yn troi lan, yn gwisgo ei het ysblennydd, a dechrau beirniadu Dewi am ryw drosedd neu’i gilydd. Mae Bryn Terfel yn gweld cyfle…
486: Hwyliau da
Mae Daf y gath mewn hwyliau da. Mae hi wedi cael syniad am fenter newydd. Mae hi’n mynd i agor siop ar y rhyngrwyd er mwyn gwerthu pob math o bethau â lluniau ohoni hi ei hun arnyn nhw. Dyw Jeff ddim yn credu’r peth. – Ti mor falch, meddai Jeff. – Ond bydd llunie…
485: Cosb eithaf
Mae taten newydd yn yr ardd. Mae e’n casáu pawb a phopeth. Yn ei ôl e, ddylai neb wneud dim byd o gwbl. Mae e wedi creu posteri sydd yn dweud “PEIDIWCH.” Mae e eisiau ailgyflwyno’r gosb eithaf. Dyw’r meirw ddim yn gallu aildroseddu, yn ei ôl e. Pa fath o droseddau sy’n haeddu’r gosb…
484: Tanciau petrol
Un tro, aeth Daf y gath i’r pentre nesaf, Ffos Du. Doedd hi heb fynd yno o’r blaen. Diolch byth, dorrodd ei fan ddim i lawr ar y ffordd. Yn y pentre, bu pobl gyfoethog ym mhobman, yn eu cerbydau enfawr. Roedden nhw’n ymddwyn yn wael iawn, gweiddi ar ei gilydd a bod yn gas…
483: Trefn
Mae’r Prifdaten cyfredol wedi adfer trefn trwy ail-gladdu’r Cyn-Brifdaten. Wel, rhyw fath o drefn. Wedi cael ei llenwi ag olew olewydd, cafodd y Cyn-Brifdaten ei phobi gan y tatws eraill. Cynhaliodd y tatws angladd ar frys, ond ddaeth neb i’w ffarwelio. Ond mae’r tatws yn dweud celwyddau ac achosi anrhefn o hyd. Dyna datws i…
482: Ciropodydd
Mae traed Dewi Sant yn erchyll. Mae ferwcau a tharwden y traed drostyn nhw i gyd. Yn y bôn, mae traed Dewi Sant yn pydru, fel pob rhan arall o’i gorff. Dyw Santes Dwynwen ddim y gallu goddef edrych arnyn nhw. Mae rhaid iddi adael yr ardd pryd bynnag mae Dewi yn tynnu ei esgidiau….
