Mae Jeff ar ei phen ei hun yn yr ardd gyda Mistar Pysgodyn Groovy. Erbyn hyn, mae pawb arall wedi cael eu harestio gan yr heddlu oherwydd cyfreithiau’r llywodraeth ffasgaidd. Rhywsut, mae Jeff wedi osgoi arestiad drwy fod yn glyfar. Mae Mistar Pysgodyn Groovy wedi osgoi arestiad drwy fod yn rhy groovy. – Bydd rhaid…
Month: July 2022
Jyglo anghyfreithlon
Mae’r llywodraeth ffasgaidd wedi pasio deddf newydd. Mae’n anghyfreithlon jyglo bellach. Mae’r hanner-siarc wedi stopio jyglo mewn ufudd-dod. Ond mae e mor drist. Heb feddwl amdani, mae e’n taflu taten i’r awyr. Ac yna taten arall. Ac yna yn arall. Mae’r heddlu’n cyrraedd, ei arestio e, a mynd ag e’n syth i’r carchar. – Yna,…
Yn y carchar (redux)
Hyd yn hyn mae llywodraeth ffasgaidd wedi carcharu sawl cymeriad, a dinistrio sawl arall. Mae risg y byddan nhw’n carcharu rhagor o gymeriadau. Maen nhw’n casáu pawb. Ydyn nhw wedi carcharu’r seintiau? Ydyn. Charcharasant selsig Frank Kafka? Do. Fydd y madarch yn dychwelyd i’r ardd? Na fydd. Wnaiff y llywodraeth garcharu Daf y gath? Dim…
Madarch anghyfreithlon
Mae’r llywodraeth ffasgaidd wedi cyhoeddi deddf newydd, sydd yn cynnwys mewn deddf am y tro cyntaf erioed eu casineb tuag at fadarch. Mae madarch yn anghyfreithlon bellach. Mae’r Archfadarchen a’i griw yn perfformio defod hudol yn yr ardd pan mae’r heddlu’n cyrraedd. Maen nhw’n llwytho’r madarch i gefn eu fan, a mynd â nhw i…
Cwstard anghyfreithlon
Mae’r llywodraeth ffasgaidd wedi pasio deddf newydd ynghylch gwneud cwstard. Anghyfreithlon ydy gwneud cwstard mewn peiriant bellach, achos bod sŵn peiriannau cwstard yn niwsans. Does dim ots gyda Santes Dwynwen. Mae hi’n cyflenwi ei chwstard cariad i’r holl dref, felly anghenrheidiol ydy peiriant. Mae cnoc ar glwyd yr ardd. Mae’r heddlu’n dod i mewn. Mae…
