Mae rhywbeth annisgwyl wedi digwydd. Mae selsig Franz Kafka (heblaw’r un a arteithiwyd gan Samuel Beckett) wedi dianc rhag eu paced nhw a ffurfio byddin. Am olygfa! Mae Samuel Beckett yn rhy brysur ypsetio’r Frenhines Branwen i sylwi bod byddin y selsig wedi’i amgylchu. Maen nhw’n clymu Samuel Beckett wrth gadair. Mae e’n cael ei…
Month: July 2022
Hela Samuel Beckett
Mae Jeff wedi creu trap ar gyfer Samuel Beckett. Ond, fel bod Dewi Sant yn gwybod yn iawn, mae temtasiynau Satan yn debyg i faglau sydd wedi’u gwasgaru ar draws llwybr tywyll. Ac mae’r staff wedi prynu blwch newydd o Dreamies. Yn sydyn, nid yw hela Samuel Beckett yn ymddangos mor bwysig bellach. Mae Samuel…
Hen ddigon
Mae pawb wedi cael hen ddigon o Samuel Beckett a’i driciau. Mae e wedi bod yn pasio’r amser wrth weiddi ar fanana. Wrth iddo fe symud ymlaen i haslo’r tatws, mae Jeff y gath yn paratoi ei ymgyrch. Mae hi’n mynd i ddelio â Samuel Beckett yn yr un ffordd ag y deliodd hi â…
Yr Argyfwng Beckett
Yn yr ardd, mae Samuel Beckett yn achosi problemau anferth. Mae e wedi claddu Santes Dwynwen i lan i’w gwddf mewn pentwr compost. Mae e wedi gwneud i’r madarch deimlo’n isel iawn gan ddarllen cerdd addrodus, ddiflas dro ar ôl tro. Mae e wedi clymu Dewi Sant wrth gadair ac arllwys ei frandi dros y…
Arteithio
Mae hunllef Franz Kafka wedi dod yn wir. Dyma Samuel Beckett yn yr ardd. Mae Samuel Beckett yn chwerthin ar ben Franz Kafka. Mae Samuel Beckett yn dwyn un o selsig Franz Kafka a’i arteithio gan arllwys dŵr berwedig arno fe o dan sbotlamp gref. Yna, mae Beckett yn torri’r selsigen yn ei hanner gyda…
Gwlychu’r gwely
Mae Franz Kafka wedi cael hunllef a gwlychu’r gwely. Yn ei hunllef oedd Samuel Beckett yn chwerthin ar ei ben am fod Franz Kafka yn canolbwyntio gormod ar ei selsig i fod yn awdur da. Cymerodd Samuel Beckett un o selsig Franz Kafka a’i arteithio. Am hunllef ofnadwy. Druan ar Franz Kafka. Saesneg / English…
Chwydlyd
Weithiau, mae Daf y gath yn poeni y bydd rhywun yn dwyn ei bwyd. Dyna pam mae hi’n bwyta mor gyflym. Weithiau, mae hi’n bwyta’n rhy gyflym. Dyna pam mae hi’n chwydu dros y lle i gyd. Cath chwydlyd yw Daf. Ond ar Jeff yw’r bai, achos bod Jeff yn dwyn bwyd Daf yn barhaol….
Cot newydd
Un tro, roedd Daf y gath wedi bod yn gollwng fflwff ym mhobman. – Dwi angen cot newydd, meddai hi i siopwr. – Ti yw’r enwog Daf y gath, on’d wyt? – Shwt dych chi’n gwbod? – Eglwys yw hon, a gwisgoedd y côr yw’r rheina. Saesneg / English Cot Newydd Once day, Dave the…
Daf y meddyg
Mae Daf y gath yn meindio ei busnes ei hunan, pan mae Santes Dwynwen yn ymddangos. Mae hi’n poeni. Mae hi’n poeni’n arw. – Meddyg wyt ti? meddai Santes Dwynwen. Mae Daf yn meddwl am eiliad. Mae hi’n rhy ddiog i chwarae o gwmpas heddiw. – Nadw. Cath dw i. – Ond mae Dewi Sant…
Am ddiwrnodau hapus
Mae Jeff y gath yn eistedd ar ben bryn o dywod, sydd wedi ymddangos yn yr ardd. Mae hi’n heulog, ac mae Jeff yn hoffi’r haul. Mae gan Jeff barasol deniadol i’w amddiffyn rhag pelydrau’r haul. Mae hi’n cael profiad seicedelig o dan y parasol, achos bod hi wedi cymryd gormod o catnip. Eto. Yn…
