Mae Daf y gath a’i chwaer Jeff wedi mynd i’r Eisteddfod. Mae Jeff yn dechrau chwilio am Faes BC yn syth ar ôl iddyn nhw gyrraedd safle’r Eisteddfod. – Jeff? meddai Daf. – Beth? – Dwi’n gwbod yn iawn beth yw Maes B. Ond beth yw Maes BC? – Maes Bwyd Cathod, y dwpsen. Saesneg…
Month: July 2022
Chaise Longue
Un tro, roedd y staff wedi prynu chaise longue i’r cathod. Mewn gwirionedd, roedd e fel y peth crafu, ond ar siâp chaise longue. Dathlodd Jeff wrth wneud bach o gyfieithu. Dechreuodd canu. Mam, Dad, ‘drychwch arna ies i i’r brifysgol a chael graddmae fy ffrindiau i gyd yn ei alw “y D mawr”es i…
Tabledi
Mae mwydod gyda Daf y gath a Jeff ei chwaer. Amser cymryd tabledi yw e. Tabledi er mwyn cael gwared â’r mwydod. Mae’r staff yn cuddio tabled yr un mewn darn o gaws. Mae Jeff yn bwyta’r caws heb oediad. – Dw i ddim yn hoffi caws rhagor, meddai Daf. Felly mae’r staff yn cuddio…
Siop ddodrefn
Mae’r cathod newydd ddychwelyd o siop ddodrefn. Yn y siop ddodrefn oedd cadeiriau. Crafodd Daf eu coesau. Yn y siop ddodrefn oedd gwelyau. Gadawodd Daf llwyth o fflwff arnyn nhw. Yn y siop ddodrefn oedd llawer o gobenyddion. Dinistriodd Jeff y cwbl lot, a gadael plu o gwmpas y lle i gyd. Yn y siop…
Pasbort
Mae ciwiau hir yn y maes awyr. Mae pawb wedi blino’n rhacs, ar ôl iddyn nhw godi am dri o’r gloch yn y bore. – O na, meddai Daf y gath. – Ble mae fy mhasbort? – Does dim pasbort gyda ti, meddai Jeff ei chwaer. – Cath wyt ti. – O na, meddai Dewi…
Diffyg
Heddiw, mae ‘na ddiffyg dŵr. Mae lefel yr afonydd yn isel iawn. Mae hyn yn golygu nad yw’r llongau’n gallu dosbarthu tanwydd na bwyd cathod. Mae hynny’n golygu bod ‘na ddiffyg bwyd cathod yn yr ardd. Mae Jeff y gath yn llwgu dros ben. Mae hi’n ddigon llwgu i fwyta cwstard Santes Dwynwen. Mae Daf…
Toddi
Un tro, roedd pawb a phopeth yn yr ardd yn toddi. Roedd hi’n anghyffyrddus iawn, heb sôn am y lleithder. Roedd Daf y gath yn cael profiad seicedelig wrth iddi chwarae gyda madarchen. Roedd pawb arall ar fin pasio mas. Yna, dechreuodd sied Dewi Sant doddi i ffwrdd. – O na, meddai Jeff y gath,…
Trwmgwsg
Mae pawb wedi gwasgu’i hun i gysgod sied Dewi Sant, gan fod yr haul mor gryf. Does neb yn gwneud dim byd, heblaw am Daf y gath, sydd yn pwnio bwced efo’i throed. – Daf, paid, meddai Jeff y gath. – Ti’n bod yn niwsans. Ond dyw Daf ddim yn ateb. Mae hi mewn trwmgwsg,…
Sychder
Mae hi’n boeth iawn. Crasboeth, mewn gwirionedd. Yn yr ardd, maen nhw’n rhedeg allan o ddŵr. Mae powlen ddŵr y cathod bron yn wag. Does dim digon o ddŵr i Santes Dwynwen wneud cwstard. Mae’r tatws a’r madarch eisiau cuddio yn y pridd, ond mae e’n rhy galed. Mae syniad gyda Dewi Sant. – Beth…
Steddfod
Mae Daf y gath yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hi wedi bod yn canu’n gyson, ond dyw hi ddim yn hoff iawn o’r darnau gosod. Cath jazz yw Daf. Felly mae hi’n efelychu Ella Fitzgerald, neu dyna beth mae hi’n feddwl. Mewn gwirionedd, mae hi’n swnio fel llyffant yn cael ei ladd…
