Mae Jeff y gath angen brechlyn. Mae hi’n cael brechlyn bob blwyddyn. Un blynyddol yw’r brechlyn. Mae’r staff yn annog Jeff i fynd i’r blwch cario efo cwpl o Dreamies. Mae Jeff yn canu’n uchel yn y car. Pan maen nhw’n cyrraedd y milfeddygfa, dyw hi ddim eisiau gadael y blwch cario o gwbl, achos…
Month: July 2022
Torheulo
Mae Daf y gath wedi bod yn torheulo. Mae ei lliw hi wedi troi o sinsir i frown. Mae Jeff y gath hefyd wedi bod yn torheulo. Yr un lliw ag arfer yw hi. Mae Dewi Sant hefyd wedi bod yn torheulo. Mae e wedi cwympo i gysgu o dan yr haul ar ôl iddo…
Ar y catnip eto
Un tro, ffeindiodd Franz Kafka fag o catnip ymysg ei selsig. Roedd e’n meddwl y byddai’n ddoniol cymysgu’r cwbl lot i mewn i fwyd y cathod. Doedd dim effaith ar Daf. Roedd angen cymryd cyffuriau cryfach iddi gael profiad seicedelig y dyddiau hyn. Ond aeth Jeff o’i chof. Brathodd a chnoi dwylo pawb, a rholio…
Fydd, gobaith a chariad
Mae Dewi Sant yn ddryslyd. Mae e wedi cwympo mewn cariad â’r santes newydd, sef Santes Adwen. Ond mae ‘na rywbeth cyfarwydd amdani. Yn enwedig ei harogl hi. Mae Daf y gath wedi adnabod yr arogl yn syth. Arogl yr Esgob yw e. Neu, i fod yn fwy penodol, arogl coludd yr Esgob. O na!…
Poblogaidd
Mae Santes Adwen, ffrind newydd Dewi Sant, yn boblogaidd iawn gyda bron pawb yn yr ardd. Nid yw hi byth yn mynd yn grac, ac mae hi’n garedig iawn. Ond mae ganddi hi gyfrinach. Nid yw pethau cweit fel maen nhw’n ymddangos. Mewn gwirionedd, yr Esgob mewn dieithrwch yw hi. Dydy Dewi Sant ddim yn…
Esgob newydd
Mae’r Esgob wedi cael y sack. Dywedodd yr Esgob nad oedd yr arian ddim ond gorffwys yn ei gyfrif. Ond chytunodd yr awdurdodau ddim. – Hoffwn i fod yn Esgob, meddai Daf y gath yn ddifrifol. – Bydd hi’n gyfle i ennill bach o arian ychwanegol. – O, Daf, dyna oedd holl bwynt ei ddiswyddiad,…
Damwain
Mae Daf y gath wedi cael damwain. Damwain drewllyd. Dyna beth mae pawb yn meddwl, yn gynnwys Daf ei hunan. Mae pawb yn ei beio hi’n syth bin. Ni chaniateir i Daf fynd i mewn i sied Dewi Sant bellach. Ond, mewn gwirionedd, Jeff sydd ar fai. Roedd Jeff off ei phen hi ar y…
Santes newydd
Un tro, roedd Santes Dwynwen yn cwyno nad oedd Dewi Sant yn ei helpu gyda’i pheiriant cwstard bellach. Arhosai Dewi yn ei sied. Doedd neb wedi ei weld ers wythnosau. O’r diwedd, aeth Santes Dwynwen i weld beth oedd yn mynd ymlaen. Edrychodd trwy’r ffenest. O arswyd pur! Roedd Santes arall yn eistedd gyda Dewi,…
Archfadarchen newydd
Un tro, roedd Daf y gath yn eistedd ar ei phen ei hun, yn llyfu ei thraed. Daeth ei chwaer Jeff i sgwrsio. – Dwi’n gweld isie’r madarch. We fi’n arfer mwynhau’r defodau hudol, meddai Jeff. – Be ddigwyddodd i’r madarchen we ti’n gwisgo fel het? gofynnodd Daf. – Sai’mod, atebodd Jeff. – Diflannu nath…
Buddugoliaeth
Mae Jeff y gath yn mynd â Mistar Pysgodyn Groovy i ymweld â’r llywodraeth. Mae hi’n mynd i achub y dydd rhag ffasgaeth. Mae presenoldeb Mistar Pysgodyn Groovy’n gwbl di-bwrpas. Mae’r llywodraeth ffasgaidd yn cael ei redeg gan fin sbwriel a Gwrach Anfad y Gorllewin, sydd yn gyfrifol am yr heddlu. – Os na wnewch…
