Mae Santes Dwynwen wedi bod yn gwneud caws. Mae hi wedi defnyddio cwstard i wneud y caws. Mae’r caws yn atgas. Mae Jeff y gath yn gwyntio’r caws. – Iesgob, meddai Jeff. – Beth yffach yw hynny? – Dyna fy nghaws cwstard, meddai Santes Dwynwen yn browd, yn dangos pentwr o gaws drewllyd i Jeff….
Month: May 2022
Mynd ar fy nerfau
Lle mae jyglo a thrais.
Di-waith
Mae Dewi Sant wedi cael llythyr oddi wrth yr Esgob. Mae e wedi cael e ddiswyddo eto. Am ba reswm? Gan ei fod wedi bod yn sarhaus wrth iddo siarad â’r Esgob ar ôl yfed gormod o win Cymundeb. Mae e’n dathlu llawenydd diweithdra drwy dreulio bach o amser ar ei ben ei hun yn…
Smwddio
Mae Santes Dwynwen yn smwddio. Mae hi’n hoffi smwddio, ac mae ganddi haearn smwddio da iawn. Fel arfer, mae hi’n smwddio popeth, yn gynnwys y tatws, yr hanner-siarc a’r cathod. Ond heddiw mae hi’n smwddio ei nicars. Mae hi’n smwddio pâr ar ôl pâr o’i nicars. Mae’r dasg yn cymryd oriau, ac mae pentwr mawr…
Neges Heddwch ac Ewyllys Da
Un tro, roedd Jeff y gath wrthi’n pwyo ar deipiadur mewn cornel. – Be ti neud fan ‘yn? meddai Daf ei chwaer. – Dwi’n sgwennu fy neges heddwch ac ewyllys da fy hun. Ma nhw ‘di colli’r pwynt ‘leni, atebodd yn gyffrous. Roedd yn amlwg bod hi am ddarllen y neges. – Bant â’r cart,…
Daf a Jeff yn y gofod, rhan 5
Unwaith iddyn nhw gyrraedd y blaned Mawrth, sylweddolodd Daf taw Jeff oedd yn hollol gywir. Doedd dim bwyd. Roedd llwch ym mhobman, a diffyg llwyr o catnip. Ac nid oedd dim ond un tun o fwyd cathod ganddynt, er mwyn cadw’r pwysau’n isel. – Be ni’n mynd i neud nawr? gofynnodd Jeff. – Sai’mod, sdim…
Daf a Jeff yn y gofod, rhan 4
– Dwi’n gwbod be sy’ angen, meddai Daf ar ôl iddi ddihuno’n llwyr. – Beth? ymatebodd Jeff. – Mwy o fflwff. Byddai’r roced yn gweithio’n well gyda mwy o fflwff. – Da iawn. Felly, ychwanegodd Daf maint arwyddocaol o fflwff i’r blwch cardbord, ac yna thanio’r injan. Roedd y roced yn swnio’n fwy effeithiol o…
Daf a Jeff yn y gofod, rhan 3
Gadawodd Santes Dwynwen sied Dewi Sant mewn pryd i weld blwch cardbord yn hedfan trwy’r awyr. Cyrhaeddodd y blwch uchder o gan metr cyn cwympo fel carreg a glanio yn yr ardd drws nesa. Ymddangosodd Daf yn ei siwt-gofod-bag-plastig, â golwg dryslyd arni. – We fi’n disgwyl i’r blaned Mawrth i fod yn fwy coch,…
Daf a Jeff yn y gofod, rhan 2
Daeth Daf o hyd i flwch cardbord delfrydol am wneud roced. Roedd e’n ysgafn ac yn eitha bach, ond yn ddigon mawr i gario’r ddwy gath. Craffodd Jeff ar y blwch. – Beth am siwtie gofod? Ni angen siwtie gofod. Byddwn ni’n mygu fel arall. – Wes siop siwtiau gofod yn yr ardal? gofynnodd Daf,…
Daf a Jeff yn y gofod, rhan 1
Un tro, deuai llawer o guro o gornel yr ardd. Roedd Daf y gath yn eistedd ar y ddaear gyda morthwyl yn ei phawen, a llanast o bren o’i chwmpas. – Be ti neud fan hyn, Daf? meddai Jeff y gath, yn amheus o’i chwaer fel arfer. – Dwi’n adeiladu roced, atebodd Daf. – Pam?…
