Mae Daf y gath yn edrych ar y myfyriwr sydd wedi dod i’r ardd. Gareth yw ei enw ef, ac mae e’n dweud “bore da” wrth Draig y ci yn barhaol. Mae Gareth yn droednoeth. – Gareth, pam nad oes sgids ‘da ti? meddai Daf. – Sori, beth? meddai Gareth. – Ble mae dy esgidiau…
Month: May 2022
Myfyriwr
Un tro, daeth myfyriwr i’r ardd. – Shwmae, meddai Daf y gath. – Be ti neud fan hyn? – Gareth dw i. Dyn dw i. Bore da Draig. – Ah, un o’r bois DuoLingo wyt ti. Da iawn ti am ddysgu’r iaith. Wyt ti eisiau coffi, neu damaid bach o gwstard Santes Dwynwen? Roedd tawelwch….
Beic Modur, rhan 2
Mae Jeff y gath yn hoffi ei beic modur newydd achos ei bod hi’n hoffi mynd yn gyflym iawn. Mae ganddi helmed sbesial â thyllau ar gyfer ei chlustiau. Ar gyflymder o bedwar deg milltir yr awr, mae ei chynffon yn chwifio o gwmpas y tu ôl iddi hi. Ar gyflymder o hanner can milltir…
Beic Modur, rhan 3
Mae Jeff y gath wedi dod yn ôl i’r ardd. Mae hi’n parcio ei beic modur yn erbyn sied Dewi Sant, a mynd i chwilio am fwyd. Yn sydyn, mae hi’n clywed sŵn injan y beic modur yn cael ei danio. O na! Mae Daf y gath yn dwyn y beic modur er mwyn gwneud…
Beic Modur, rhan 1
Mae pinafal cŵl wedi dod i’r ardd. Mae e’n gwisgo siaced leder, sbectol haul, a het ddoniol, ac mae e’n gyrru beic modur. Mae’r beic modur yn gwneud sŵn ardderchog. Mae’r hanner-siarc wrthi’n jyglo â mefus. Nid yw’r mefus yn hapus iawn amdani. Pan mae’r hanner-siarc yn gweld y pinafal ar ei feic modur, mae…
Coler
Mae Jeff y gath wedi dychwelyd o’r filfeddygfa. Mae’r staff yn dweud ei bod hi wedi cael “bach o hoe”. Ond nid hoe oedd e. Cynddeiriog yw hi. Mae hi’n ymguddio y tu ôl i’r soffa. – Dw i ddim yn hoffi’r blydi coler ‘ma, meddai Jeff wrth Daf ei chwaer, yn ceisio tynnu’r coler…
Arwydd rhybudd
Un tro, daeth aderyn du (a’i blufyn sidan) i’r ardd, gyda’i ffrindiau, sef llwythau o adar du eraill, ac adar du benywaidd, a oedd yn frown budr diflas. Roedd Daf y gath yn gwylio beth oedd yn mynd ymlaen. Dechreuodd hi orymdeithio tuag at yr adar er mwyn cynnig powlen o gwstard iddyn nhw, achos…
Ble mae Jeff?
Mae Jeff y gath dal yn dioddef. Mae hi eisiau mannau ymguddio. Mae’r staff wedi colli Jeff. Dydyn nhw ddim yn gallu’i ffeindio hi. Ond mae drysau a’r ffenestri ar gau. Felly yn y tŷ yw hi. Ydy hi yn y tŵr gyda Mistar Afal Hapus? Nac ydy. Ydy hi mewn blwch cardbord? Nac ydy….
