Sawl diwrnod yn ddiweddarach, nid oedd dim golwg o Daf y gath o gwbl. Roedd Jeff yn hapus iawn, wrth gwrs, achos bod hynny’n golygu bod hi’n cael bwyd dwbl bob tro. Ond roedd pethau’n dawel iawn heb ddadlau â’i chwaer. – Allen ni jyst dechre stori newydd heb Daf, meddai Dewi Sant. – A…
Month: May 2022
Argyfwng, rhan 6
Aeth Daf i weld ei chyn-gyflogwyr yn y bin wheelie. Roedd hi’n synnu at ba mor hawdd i yrru yr oedd e. Nid aeth y cyfweliad yn dda. Er ei bod hi wedi dychwelyd yr het ddosbarthu ei hun, dywedasant ei bod hi’n dwp, yn ddiog, ac yn hollol anaddas i’r swydd, ac nid oedd…
Argyfwng, rhan 5
Dihunodd Dewi Sant o’i weledigaeth â chur pen a syniad. Archwiliodd yr het ddosbarthu. Fe alwodd ar Daf y gath, a oedd yn dal i fod mewn panig. Roedd y diffyg catnip yn dod yn broblem. – Daf, beth am i ti ddosbarthu’r het ddosbarthu iddyn nhw dy hunan? Yna gallet ti brofi bo’ ti’n…
Argyfwng, rhan 4
Tra oedd Daf y gath mewn panig am golled yr het ddosbarthu, roedd Dewi Sant yn cael gweledigaeth ar y ddaear y tu fas o’i sied. Neu brofiad seicedelig. Doedd neb yn gwybod beth a roddodd yn ei ffags na’i gwrw. Yn natguddiad Dewi Sant, fe welodd Pedair Het yr apocalyps, yn marchogaeth dros fryniau…
Argyfwng, rhan 3
– Sai’n gallu ffeindio’r het ddosbarthu, meddai Daf y gath wrth Dewi Sant. – Fi’n gorfod hala hi nôl atyn nhw ond so fi’n gallu dod o hyd iddi hi’n unrhyw le. Yn dy sied yw hi? Dywedodd Dewi Sant dim byd. Gollyngodd ei gwrw a phasio mas. Cerddodd Jeff y gath heibio, yn gwisgo…
Argyfwng, rhan 2
Ar ôl i Daf y gath gael ei diswyddo o’i swydd fel dosbarthwr, doedd hi ddim yn gwybod beth i’w wneud. Doedd ganddi ddim syniadau am fentrau newydd. Yn waeth byth, doedd dim catnip ar ôl. Rholiai Jeff y gath o gwmpas ar y ddaear yn yr heulwen, yn anwybyddu trafferthion Daf. – Jeff, meddai…
Argyfwng
Un tro, cyrhaeddodd llythyr wedi’i gyfeirio at Daf y gath. Annwyl Mrs. Y. Gath, Yn anffodus, oherwydd y diffyg o ddosbarthiadau ar eich ran yn ddiweddar, yr ydym yn eich diswyddo. Byddwch yn derbyn dim byd. Anfonwch eich het ddosbarthu’n ôl atom, os gwelwch yn dda. – O na, meddai Daf wrth Jeff. – Dwi…
Buches
Un tro, daeth buches o wartheg i’r ardd. Dechreuodd y gwartheg pori ar y lawnt. – Beth sy’ gyda ni fan hyn? gofynnodd Dewi Sant. Oediodd, ac yna clirio ei wddf. – Paid, meddai Daf y gath. – Dwi ‘di cael llond bol o dy ganeuon cyfri. – We fi’n mynd i ganu am eu…
Cyfri seintiau
Mae Daf y gath yn eistedd y tu ôl i sied Dewi Sant. Mae canu yn mynd ymlaen y tu mewn iddi. Mae Dewi Sant wedi cyfansoddi cân arall am gyfri. – Beth wyt ti’n ganu? meddai Daf, ar ôl i Dewi Sant dod allan er mwyn ysmygu sigarét. – Dw i wedi ysgrifennu cân…
Cyfri Hetiau
Mae Dewi Sant wedi dod o hyd i flwch o hetiau. Mae e’n canu cân amdanyn nhw wrth iddo yfed ei gwrw yn yr heulwen mewn het fowliwr atyniadol iawn. – Beth sy’n mynd ymlaen fan hyn? meddai Daf y gath, yn torri ar draws cân Dewi Sant. – Dw i ‘di ysgrifennu cân ar…
