
Mae rhywbeth wedi croesdynnu meddwl Dewi Sant oddi wrth Duw.
O na. Dim eto.
Beth sy’ wedi digwydd?
Roedd pethau’n ddigon wastad am unwaith. Ond yn anffodus aeth Dewi Sant i sêl cist car ar y penwythnos, dod o hyd i ocarina blastig, a’i phrynu.
Byth ers hynny, mae e wedi bod yn yswitio bant arni.
— Hei Dewi, mae’n amser gweddïo, medd Santes Dwynwen.
Dim ateb. Mae e’n brysur gweithio allan y bysiadau ar gyfer thema Lorel ac Hardi.
I Daf y gath, mae’r ocarina’n offeryn uffernol. Bydd rhaid cael gwared â’r peth.