Mae Dewi Sant mewn theatr lawdriniaeth.
O na. Beth sy’n bod arno?
Wel.
Fe fuodd yn ymarfer “Llosg Llundain” ar ei ocarina ail-law am teirawr, a gyrru Daf y gath a’r enwog Bryn Teribl o’u coeau. Does neb angen clywed “Llosg Llundain” am oriau. Yn enwedig ddim ar ocarina.
— Dyle rhywun roid y blydi ocarina ‘na lan ‘i din e, meddai Daf y gath.
Yn anffodus, mae’r enwog Bryn Teribl yn ddyn llythrennol iawn.
Felly, dyma ni yn yr ysbyty.