
Mae’r Archesgob newydd am adeiladu mwy o eglwysi fforddiadwy.
Ond does dim adeiladwyr ar gael yng Nghrymych. Aethon nhw i gyd yn ôl i Wynedd ar ôl y pandemig.
Bydd rhaid hyfforddi’r cathod lleol a’r seintiau.
Mawredd yr adar.
— Hei Daf, be ti neud gyda’r trywel ‘na? gofyn Jeff y gath, sydd wedi bod yn osgoi’r hyfforddiant yn llwyddiannus.
Ond mae Daf yn sment i gyd, ac mae’r sment yn caledu trwy’r proses cemegol arferol. Mae golwg fel cerflun rhad o’r chwedegau arni.
Mae Dewi Sant yn dda i ddim, felly dyma Santes Dwynwen ar ei phengliniau, yn ceisio adeiladu eglwys ar ei phen ei hun.