1397: Cynhadledd

Mae Harri Benwyn, y ffasgydd enwog, wedi cynnal cynhadledd yng Nghrymych. Mae e’n dweud ei fod yn disgwyl i bawb fod yn hapus. Bydd mwy o ddienyddio hyd nes i’r trigolion i gyd fod yn hapusach.

Pwy sydd wedi cael eu dienyddio hyd yn hyn?

Neb. Dyna’r peth. Mae bygythiadau Harri Benwyn yn gwbl wag.

Ond mae bygythiad arall ar y gorwel. Mae Harri Benwyn wedi bwcio adloniant ar gyfer ei gynhadledd ffasgaidd.

Pwy sydd ar y llwyfan?

Dyma’r enwog Bryn Teribl yn chwarae unawd ar ei gitâr fas. Mae e wedi bod wrthi ers oriau.

Ond does dim ots gyda Daf y gath. Mae hi off ei phen ar y Dreamies seicedelig.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.