
Mae Santes Dwynwen wedi gwerthu’r enwog Owain Glyndŵr.
Pwy brynodd e?
Consortiwm o gyfalafwyr mentro brynodd e.
Mawredd yr adar. Beth maen nhw’n mynd i’w wneud gyda fe?
Pwy a ŵyr. Ond am yn awr, mae’r gegin yn dawel, a gall Santes Dwynwen gwneud cwstard heb boeni am ymyrraeth anochel Owain a’r anrhefn ddilynol.
Digwydd bod, mae ganddi syniad ei hunan am fenter newydd. Mae hi’n mynd i agor siop gwstard yn y dref. Bydd angen cymorth Daf y gath.