
Mae Santes Gwladys wedi plannu coeden yn yr ardd. Ysgawen yw hi.
— Wê digon o cwêd ‘da ni yn barod, medd Daf y gath.
Ac mae hi’n hollol iawn. Mae’r ardd wedi troi’n goedwig, ac mae’r goedwig yn taflu cysgod dwfn dros bopeth.
Fydd neb yn gallu gweld y siop, ac felly ni fydd unrhyw gwsmeriaid i brynu cwstard Santes Dwynwen.
O diar. Ble mae Dewi Sant a’i lif gadwyn pan fo ei angen? Does neb yn gwybod.
O wel. Bydd hi’n bosibl i Santes Dwynwen wneud cwstard blodau ysgawen, o leiaf.