Mae’r enwog Bryn Teribl yn chwarae gyda llwy bren. Mae e’n hoff iawn ohoni. Byth ers iddo golli ei gitâr fas, dyna ei brif offeryn cerddorol, ynghyd â basged dillad a lamp ddesg. Mae Daf y gath yn gwylio mewn arswyd wrth iddo guro’r fasged a’r lamp bob yn ail. Ond mae’n ei gadw allan…
Month: March 2026
1348: Normalrwydd
Mae normalrwydd wedi dychwelyd i Grymych. Hwrê! Beth ddigwyddodd? Mae’r Anghrist, sef babi Santes Dwynwen, wedi bwydo ar y ffasgwyr i gyd, gan gynnwys Harri Benwyn, Mrs. Cadog, ac Elin Conan, a’u gadael fel plisg sychedig. Mae llawer o gyrff sych i’w delio â nhw. Dyma’r enwog Waldo Williams ar gefn ei feic modur rhydlyd,…
1347: Maes campio
Ma Daf y gath ‘di defniddio’i helw o’r garej i brynu maes campo i tu ôl i’r pentre. Wrth gwrs, ma ffasgwyr Harri Benwyn in imddangos in syth a thrio trefnu rali fowr ffasgaidd ar i maes. Dim gobeth. Ma Daf a Jeff i whâr in chaso’r ffasgwyr o’r maes fesul un. Ma fel hen…
1346: Yr anghrist
Ma babi Santes Dwynwen in tiddi’n annishgwl o glou. Er nad yw e’n fwy na chwpwl o wthnose wêd, ma fe isoes in mynd i garej Daf y gath i brynu ffags Dewi Sant. Beth yw ‘i enw e? Dêmian. O diar. Ir anghrist yw e? Ody. Mowredd. Dina broblem fwy na Harri Benwyn, i…
1345: Newid
So Bryn Dishgled in lico i enw newydd miwn gwirionedd. Wê pethe’n lot haws cyn iddo dderbyn ir enw “Dishgled” oddi wrth Harri Benwyn, i ffasgydd uffernol. Ar i dechre, fe gâth e gropad go iawn er mwyn ffito miwn gida Harri a’i ffasgwyr bach. Ond nawr, ma’r holl sefillfa’n neud iddo fe dwmlo’n drist…
1344: Sul y Mamau
Sul i Mame yw heddi. Ma Harri Benwyn, y ffasgydd uffernol sy’n rhedeg i Crymych Ffasgaidd Newydd in dishgwl i’r ferched i gyd gâl babanod erbyn amser cino. Wes unrhyw un in feichiog? Na wes. Ma Mrs. Cadog, morwyn fach ffiddlon Harri Benwyn, in esgus câl babi trwy rhoid gobennydd dan ‘i siwmper a chwedyn…
1343: Babanod
Yn y Crymych Ffasgaidd Newydd, ma Harri Benwyn am dynnu sylw ‘i ddinasyddion oddi wrth ciflwr i pentre. Felly ma fe’n neud datganiad dros i seinyddion sy’n hongian o bob un polyn lamp, in gweud bydd rhaid i’r ferched i gyd gâl babi erbyn diwedd i mis. Iawn te. Pwy sy’n mynd i ecspleino iddo…
1342: Dyrchafiad
Ma Daf y gath di câl hen ddigon o witho fel sgrifenniddes i Harri Benwyn, i ffasgydd uffernol sy’n rhedeg i Crymych Nowydd. Felly ma hi am gâl dyrchafiad. Ma hi isie disodli un o rheolwyr i garej lle ma nhw’n gwerthu’r peis sy’n llosgi dy geg. Ac in i Crmymch Ffasgaidd Newydd, ma rhaid…
1341: Swyddi
Ma Harri Benwyn, i ffasgydd uffernol sy’n rhedeg i Crymych Newydd, ‘di penderfynu bydd rhaid i bawb in i pentre ailymgeisio am ‘u swyddi. Beth am i rhai sy heb swyddi? Bydd rhaid i’ nhw ailymgeisio am yr hawl i fodoli, yn ôl Harri Benwyn. Mowredd. Bydd unrhyw un in câl i sac? Siŵr o…
1340: Hwlffordd
Ma Daf y gath ‘di mynd â Bryn Dishgled i Hwlffordd. Pam? Achos bod ir uffernol Harri Benwyn am iddo gâl ‘i sbaddu, a na wes sbaddwr in Crymych. Ond ma siniade erill ‘da Daf. Ma hi’n mynd i weld ir uwch-ffasgwyr in swyddfeydd i Cyngor Sir i gwyno. Nhw sy’n gifrifol am roid ir…

