
Mae normalrwydd wedi dychwelyd i Grymych. Hwrê!
Beth ddigwyddodd?
Mae’r Anghrist, sef babi Santes Dwynwen, wedi bwydo ar y ffasgwyr i gyd, gan gynnwys Harri Benwyn, Mrs. Cadog, ac Elin Conan, a’u gadael fel plisg sychedig.
Mae llawer o gyrff sych i’w delio â nhw.
Dyma’r enwog Waldo Williams ar gefn ei feic modur rhydlyd, yn gofyn i Daf y gath beth mae e wedi ei golli.
— Dim lot, meddai Daf o’r tu ôl i gownter y garej. — Tisie prynu pei?