
Mae’r enwog Bryn Teribl yn chwarae gyda llwy bren. Mae e’n hoff iawn ohoni. Byth ers iddo golli ei gitâr fas, dyna ei brif offeryn cerddorol, ynghyd â basged dillad a lamp ddesg.
Mae Daf y gath yn gwylio mewn arswyd wrth iddo guro’r fasged a’r lamp bob yn ail. Ond mae’n ei gadw allan o drafferth.
Yn anffodus mae Santes Dwynwen am wneud bach o gwstard, ac mae angen y llwy bren arni.
Nid yw Bryn yn fodlon ei ildio. Mae e’n rhedeg o gwmpas y gegin â’r fasged ddillad ar ei ben.
O, Bryn.