Mae Daf y gath yn gwylio’r enwog Owain Glyndŵr yn ei bwll padlo. Mae e’n ymnyddu. Erbyn hyn mae e’n edrych fel cwlwm. Dyw e ddim yn edrych yn gyfforddus o gwbl. O diar. Beth mae e’n ei wneud? Trio ymarfer ioga y mae e. Oes Tywysog Cymru erioed wedi ymarfer ioga mewn pwll padlo…
Month: May 2025
1257: Meddylgarwch
Yn ei bwll padlo, mae’r enwog Owain Glyndŵr yn trio bod yn feddylgar, ond mae e’n cael hi’n anodd meddwl. Anadlu heb feddwl yw’r pwynt, Owain! Mae e’n dechrau drwy anadlu i mewn. Beth sydd i fod i ddigwydd nesaf, Owain? Dyw e ddim yn gwybod. Mae e’n parhau i anadlu i mewn heb feddwl….
1256: Myfyrdod trosgynnol
Beth mae Owain Glyndŵr yn ei wneud yn ei bwll padlo nawr? Mae e’n ymarfer myfyrdod trosgynnol. Mawredd yr adar. Oes rhywun arall erioed wedi ymarfer myfyrdod trosgynnol mewn pwll padlo? Siŵr o fod. Yr enwog George Harrison, efallai. Ydy Daf y gath yn ymarfer myfyrdod trosgynnol? Nac ydy. Mae hi’n cysgu o dan y…
1255: Annhymorol
Mae’n gynnes am yr adeg hon o’r flwyddyn. Beth mae Owain Glyndŵr yn ei wneud? Mae e’n chwarae yn ei bwll padlo. Oes dŵr yn ei bwll padlo? Nac oes. O diar. Pwy sy’n mynd i lenwi’r pwll padlo? Neb. Mae pawb yn chwyslyd, ac maen nhw i gyd wedi cael digon o’r tymereddau uchel….
