Mae Daf y gath yn gwylio pennod derfynol “Sesiwn DJ Ddyfnforol Bryn Teribl” ar y teledu. Mae rhywun yn chwarae ond mae ei freichiau yn y lle anghywir. Mae ei ben yn y lle anghywir, hyd yn oed. Mae’r enwog Bryn Teribl wedi ailgymysgu ei hunan! O diar. Beth sy’ angen ei wneud i’w helpu?…
Month: May 2025
1267: Gwestai
Mae gwestai arbennig ar raglen Bryn Teribl heddiw. Pwy sy’n dod i gymryd rhan yn Sesiwn DJ Ddyfnforol Bryn Teribl? Yr Esgob, dyna pwy! O diar. Ydy’r Esgob yn mynd i ailgymysgu clasuron disgo? Nac ydy. Mae e’n mynd i chwarae cerddoriaeth eglwysig ddiflas. Saesneg / English Guest There is a special guest on Bryn…
1266: Dewi Sant a’r morfil
O dan y môr, mae Dewi Sant a’r enwog Bryn Teribl yn ffilmio pennod newydd o Sesiwn DJ Ddyfnforol Bryn Teribl. Mae Bryn yn rhy brysur yn chwarae â’i gloch buwch i sylwi ar y morfil sy’n dod tuag ato fe. Mawredd. Ydy’r morfil yn mynd i fwyta Dewi Sant? Nac ydy. Mae’r morfil yn…
1264: Cregyn bylchog
Mae Daf y gath yn gwylio pennod newydd o “Sesiwn DJ Ddyfnforol Bryn Teribl” ar y teledu. Dyw’r enwog Bryn Teribl ddim wedi boddi eto. Am syndod. Mae’r ystifflog anferthol wedi bennu ei waith ailgymysgu, a thro’r cregyn bylchog yw e nawr. Pa mor dda yw cregyn bylchog fel DJs? Maen nhw’n anobeithiol. Ond does…
1263: Ystifflog anferthol
Ar raglen teledu newydd Bryn Teribl, sef Sesiwn DJ Ddyfnforol Bryn Teribl, mae’r ystifflogod yn rhoi cynnig ar ailgymysgu. Oes ganddyn nhw flwch o senglau deuddeg modfedd cyfleus? Oes. Pa mor hawdd yw newid record i ystifflog anferthol? Nid yw’n hawdd o gwbl. Beth mae Bryn ei hunan yn wneud? Mae Bryn wedi dod â’i…
1263: Teledu
Mae Daf y gath yn gwylio’r teledu. Fel arfer, bydd hi’n gwylio rhaglenni am fywyd gwyllt, a dychmygu hela’r adar yn aflwyddiannus. Ond y tro yma, mae hi’n gwylio rhywbeth arall. Mae dyn swnllyd, tew ar y sgrin. Mae e’n ailgymysgu caneuon opera yng nghwmni mintau o ystifflogod bio-ymoleuol. Teitl y rhaglen yw “Sesiwn DJ…
1262: Drewdod
Mae drewdod ym muarth y ganolfan grefft. Mae pawb yn synnu gan nad ydy Santes Dwynwen wedi bod yn arllwys ei chwstard ffiaidd i’r treiniau’n ddiweddar. Beth sy’n gyfrifol, felly? Ydy Daf y gath wedi rhyddhau pelen ffwr enfawr? Nac ydy. Ydy Jeff y gath wedi rhyddhau pelen ffwr enfawr? Nac ydy. O diar, ar…
1261: Mwg
Yn y ganolfan grefft, mae Daf y gath yn gweld mwg yn dod o weithdy Dewi Sant. Beth sy’n digwydd? Ydy Dewi Sant yn llosgi i farwolaeth? Nac ydy. A hefyd, mae’r mwg yn annaturiol o wyn. Mawredd. Ydy…? Ydy. O diar. Fydd rhaid i Dewi symud i Rufain? Bydd, yn ddamcaniaethol. Fydd rhaid i…
1260: Cwmni
Mae aelodau cwlt Owain Glyndŵr wedi mynd i ffwrdd. I ble? Bant. Maen nhw wedi penderfynu addoli pyllau nofio yn hytrach na phyllau padlo. Mawredd. Felly mae Owain Glyndŵr ar ei ben ei hun yn ei bwll padlo unwaith eto. Mae e wir eisiau cwmni. Druan arno fe. Saesneg / English Company The members of…
1259: Cwlt
Mae’r enwog Owain Glyndŵr wedi sefydlu cwlt. O diar. Pa fath o gwlt yw e? Cwlt sy’n addoli pyllau padlo. “Cwlt sy’n addoli mewn pyllau padlo”, siŵr o fod? Nage. Mae Owain Glyndŵr yn annog i’w ddilynwyr addoli pyllau padlo lliwgar, chwyddadwy. Saesneg / English Cult The famous Owain Glyndŵr has started a cult. Oh…
