Mae Daf y gath yn mynychu cyngerdd clasurol. Dyw hi ddim wedi mynd i glywed cerddorfa o’r blaen. Mae’r cerddorion yn gorymdeithio i’r llwyfan. Maen nhw’n edrych yn smart iawn. Mae Daf yn dechrau cynhyrfu. Dyma’r arweinydd. Mae hi’n codi ei ffon, ac mae’r cerddorion yn paratoi i ddechrau’r perfformiad. Arhoswch am eiliad, beth sy’n…
Month: May 2025
1278: Llifanydd mainc
Mawredd, mae darnau o bethau dros y lle i gyd. Weithiau bydd rhywbeth caled yn hedfan heibio. Mae’r buarth mor beryglus heddiw. Beth sy’n digwydd? Roedd yr enwog Bryn Teribl yn dechrau diflasu ar ei beiriant rhwygo, ac felly prynodd e lifanydd mainc gwaith trwm. Beth yw’r blwch oren ‘na? Ffwrnais chwyth yw honna. Mawredd,…
1277: Peiriant rhwygo
Mae sŵn ofnadwy yn dod o fuarth y ganolfan grefft. Beth sy’n digwydd? Mae’r enwog Bryn Teribl wedi prynu peiriant rhwygo. Mawredd yr adar. Beth mae e’n rhwygo? Mae e’n rhwygo popeth o fewn cyrraedd. Mae Daf y gath yn mynd i ymguddio y tu ôl i’r piano, rhag ofn. Saesneg / English Shredder A…
1276: Treipfa
Mae Daf y gath wedi cael syniad am fenter arall. Mae hi’n mynd i sefydlu treipfa lle bydd hi’n cynhyrchu digon o dreip i fwydo Cymru gyfan. Mae treip yn fwyd iach, yn llawn o brotein. Yn anffodus mae treip yn ffiaidd. Oes rhywun yn bwyta treip o hyd? Nac oes. Ond mae’n rhy hwyr…
1275: Esgidiau glaw
Mae Daf y gath wedi sefydlu menter newydd er mwyn ennill tipyn bach o arian. Mae Daf yn mynd i werthu esgidiau glaw i gathod bach. Ydy cathod bach yn hoffi gwisgo esgidiau glaw? Nac ydyn. Mae’n well ganddyn nhw allu llyfu eu traed. Dylet ti wybod hynny, Daf! Ydy Daf wedi gwerthu unrhyw beth?…
1274: Cyfrinair
Mae Bryn Teribl wedi anghofio ei gyfrinair. Pa gyfrinair? Y cyfrinair. — Nefoedd yr adar, medd Daf y gath. — Wyt ti’n defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer popeth? — Odw. — Yr ynfytyn uffernol. Beth mae e’n mynd i wneud? Mae e’n mynd i fynd i banig. Saesneg / English Password Bryn Teribl has forgotten…
1273: Tristwch
Mae Dewi Sant yn teimlo’n drist heddiw, ac mae’r tristwch yn heintus. O diar. Pam hynny? Wel, am un peth mae Dewi wedi rhedeg mas o sigarennau. Ac mae e’n gwrthod fêpio. Unrhyw beth arall? Dyw e ddim yn sicr. Ond mae e fel cwmwl du. Mae Jeff y gath yn trio ei helpu. —…
1272: Rhyngrwyd
Dyw’r rhyngrwyd ddim yn gweithio heddiw. O diar. Does neb yn gallu gweithio! O diar! Beth am i ni gael parti? Pam lai. Mae Daf y gath yn dechrau dosbarthu Dreamies seicedelig. Hwrê! Arhoswch am eiliad. Beth? Mae’r golau ar flaen y rŵter yn fflachio’n wyrdd eto. Yn ôl â phawb i’w desgiau! Bydd rhaid…
1270: Ffrwythau
Mae Daf y gath yn gynhyrfus iawn. — Be sy’n digwydd, Daf? medd Jeff. — Fi ‘di câl syniad am fenter newydd, medd Daf. — Sef… — Fi’n mynd i werthu ffrwythe. — Pa fath o ffrwythe, ac i bwy wt ti’n mynd i werthu nhw? — Ýmm, sai’mod. — Miwn gwirionedd, ti ddim yn…
1269: Tiriogaeth
Mae Daf a Jeff yn amddiffyn eu tiriogaeth. Oes rhywun yn ceisio ei meddiannu? Oes. Pwy fyddai’n ddigon twp i wneud hynny? Yr enwog Owain Glyndŵr mewn gwisg gath, dyna pwy! O diar. Ydy’r cathod yn mynd i grafu’r enwog Owain Glyndŵr? Ydyn. Yn ddwfn. Saesneg / English Territory Dave and Jeff are defending their…
