Mae sant yn yr eglwys. Wel, oes. Mae Dewi Sant yn gwneud pethau bychan y tu ôl i lenni’r festri. Ond mae sant arall, hefyd. Go iawn? Wir i chi. Ydy Daf y gath wedi mynd yn sant? Nac ydy. Arhoswch am eiliad. Ble gest ti’r dŵr arllwysaist ti dros yr Archesgob, Bryn? O, na….
Month: March 2025
1222: Dŵr
Mae’r enwog Bryn Teribl ac Owain Glyndŵr wedi llwyddo i fwydo’r Archesgob â bwyd Daf y gath. Erbyn hyn mae e’n cysgu’n hapus yn ei gawell. Ond mae golwg braidd yn sych arno fe. Bydd angen dŵr. Mae Bryn Teribl yn nôl bwced o ddŵr a’i arllwys dros yr Archesgob. O, Bryn. Mae Daf y…
1221: Bwydo
Mae’r enwog Bryn Teribl ac Owain Glyndŵr yn cadw’r Archesgob fel anifail anwes mewn cawell yn y crypt. ‘Dyn nhw ddim yn sicr beth mae e’n fwyta, ac mae’r Archesgob yn rhy grac i allu siarad. Fydd yr Archesgob yn bwyta cwstard ffiaidd Santes Dwynwen? Na fydd. Fydd yr Archesgob yn bwyta letysen fel cwningen…
1220: Aur
Mae’r aur i gyd wedi diflannu o eglwys newydd yr Esgob. O diar. Arhoswch am eiliad. Ble mae’r Archesgob? Mae’r Archesgob mewn cawell yn y crypt. Beth? Yn anffodus, dyw’r Archesgob ddim yn ddyn gonest. Dygodd e’r aur a’i werthu ar y farchnad ddu. Ond yn lle galw’r heddlu, mae’r enwog Bryn Teribl ac Owain…
1219: Aeron
Mae Bryn Teribl wedi codi aeron o’r ywen ym mynwent eglwys newydd yr Esgob. Pa mor wenwynol ydy aeron yw? Maen nhw’n achosi chwysu a chwydu. Maen nhw hefyd yn gallu stopio’r galon. Mawredd. Mae Bryn Teribl yn mynd i fwyta’r aeron, on’d yw e? Siŵr o fod. Ar yr eiliad honno, mae Daf y…
1218: Ywen
Mae’r Esgob wedi plannu ywen ym mynwent newydd ei eglwys ar hen safle Crymych. Mae Daf y gath yn dadlau â Santes Dwynwen am ynganiadau. — Mae’r Esgob wedi plannu coeden, medd Santes Dwynwen. — ‘Na be wedes i, medd Daf. — Ma’r Esgob di plannu cwêden. Mae aeron yr ywen yn wenwynol, fel bod…
1217: Neidr
Mae’r enwog Bryn Teribl yn eistedd ar gadair ynghanol eglwys newydd yr Esgob. Mae e’n curo tannau ei gitâr fas ar hap a rhuo fel anifail gwyllt. Mawredd. ‘Dyn ni wedi gweld dy eisiau di gymaint, Bryn. Mae Daf y gath yn ei wylio mewn difyrrwch. Ond mae’r Esgob eisiau cynnal oedfa. O diar. Mae’r…
1216: Sŵn
Mae sŵn ofnadwy’n dod o eglwys newydd yr Esgob. Mae’n swnio fel bod pla o ych gwyllt yn codi stŵr. Beth yw e? Mae Daf y gath yn mynd i’w ymchwilio. Ydy Santes Dwynwen yn defnyddio’r hŵfer? Nac ydy. Oes ych gwyllt yn yr eglwys wedi’r cyfan? Nac oes. Dyma’r enwog Bryn Teribl a’i gitâr…
1215: Gwawdio
Mae’r Archesgob yn gwawdio Dewi Sant. Y tro diwethaf i hynny ddigwydd, fe gafodd yr Archesgob slap. Mae Daf y gath yn gwylio wrth i Dewi godi sosban. Mawredd. Mae Dewi’n taro’r Archesgob ar ei ben â’r sosban. Mae’r sŵn fel gong enfawr. Pam mae’r Archesgob yn gorwedd ar y llawr? O achos ei fod…
1214: Tawelu
Pwy all dawelu’r Archesgob? Nid Daf y gath. Mae’r Archesgob yn casáu’r cathod. Nid Santes Dwynwen. Mae cwstard Santes Dwynwen yn hala’r Archesgob yn benwan. Nid Dewi Sant. Mae sigaréts Dewi Sant yn hala’r Archesgob yn benwan. Nid Waldo Williams. Mae Waldo wrthi’n trwsio ei fotor-beic. Yn sydyn, mae Owain Glyndŵr yn gwaldio’r Archesgob ar…
