Ar safle datblygiad Tudno Sant, mae Owain Glyndŵr newydd osod llwybr. O! I ble mae’r llwybr yn arwain? Mae’r llwybr yn mynd rownd. Felly, mae’n gwbl ddibwrpas? Ydy. Mae Daf y gath wedi ceisio rhwystro’r enwog Bryn Teribl rhag crwydro’r llwybr, ond mae’n rhy hwyr. Bant â fe ar gylchdro gorchest. Saesneg / English Path…
Month: March 2025
1232: Tŷ
Mae Owain Glyndŵr wedi rhoi shot ar adeiladu tŷ ar safle datblygiad Tudno Sant. Pa mor llwyddiannus yw e wedi bod? Wel. Mae ‘na waliau, o leiaf. Ond mae e wedi gwneud cawl o’r peth. Yn naturiol. Mae Daf y gath yn dweud wrtho am sefyll yn y gornel â’i ddwylo ar ei ben. Saesneg…
1231: Jac codi baw
Mae gwaith ar safle datblygiad Tudno Sant yn parhau. Oes tai newydd eto? Nac oes. Ond mae twll mawr yn y ddaear. O, Bryn, beth wyt ti wedi wneud? Mae’r enwog Bryn Teribl wedi bod yn anwybyddu gorchmynion Daf y gath, sef y fforman, a chael lot o hwyl wrth balu twll enfawr â’r jac…
1230: Gweithwyr
Mae Tudno Sant yn mynd i godi stad o dai newydd y drws nesaf i ganolfan grefft Dewi Sant. Mae’r byd modern yn ddidrugaredd. Mae angen gweithwyr dibynadwy ar Tudno Sant. Yn anffodus, does dim gweithwyr dibynadwy yn yr ardal, felly mae e’n llogi’r enwog Bryn Teribl a’i efell Owain Glyndŵr. Dyw Bryn erioed wedi…
1229: Datblygwr
Mae rhywun yn mynd i godi stad o dai newydd yn y cae y drws nesaf i ganolfan grefft Dewi Sant. Pwy sy’n gyfrifol? Y llywodraeth, fel arfer. Fydd ‘na dai fforddiadwy? Wrth gwrs ddim. Elw yw’r nod. Mae Dewi Sant yn teimlo’n chwerw iawn. Mae e wedi dechrau yfed yn drwm. Hyd yn oed…
1228: Gwanwyn
Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd. Mae’r mwyeilch yn canu nerth eu pennau yn y coed. Mae Daf y gath mas tu fas, yn edmygu’r cennin pedr. A bwyta sawl un ohonyn nhw. Mae popeth yn obeithiol am unwaith. Arhoswch am eiliad. Beth yw’r sŵn erchyll ‘na? Mae rhywun yn torri coed ac aredig mewn cae gerllaw….
1227: Crymych
Mae Daf y gath yn deffro ynghanol Crymych. Ymddengys mai breuddwyd oedd y cwbl. Mae’r dref yn gyfan, does dim octopws tref-fwytaol wedi bod, does dim eglwys newydd i’r Esgob, ac mae Bryn Teribl yn chwarae ei gitâr fas yn hapus. Phiw. Felly, ble mae’r Archesgob? Wel, dyna ryfedd o beth. Os cofiwch chi, gadawon…
1226: Twmpath
Mae’r Archesgob wedi mynd i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel oherwydd Dreamies seicedelig Daf y gath. Arhoswch am eiliad. Fe gafodd y Crymych go iawn ei ddinistrio gan octopws. Dyna le mae eglwys newydd yr Esgob. Felly, ydy’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel yn dal i fodoli? Nac ydy. Am drychineb….
1225: Pwysau gwaed
Mae pwysau gwaed Dewi Sant yn uchel iawn. Pam hynny? Oherwydd bod yr Archesgob wedi bod yn gweiddi arno fe. On’d yw’r Archesgob yn y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel? Ydy. Am y tro. Ond mae Dewi Sant wedi cymryd madarch hudol a roddwyd iddo gan Daf y gath, ac mae e wedi…
1224: Gwyrth
Mae’r enwog Bryn Teribl ac Owain Glyndŵr wedi bod yn cadw’r Archesgob fel anifail anwes mewn cawell yn y crypt. Yn anffodus, arllwysodd Bryn fwced o ddŵr swyn dros yr Archesgob, ac o ganlyniad, mae’r Archesgob wedi mynd ar y llwybr cyflym tuag at seintiolaeth. Ond mae e’n dal i fod yn grac. Mae e’n…
