Yn y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel, mae’r grŵp y Pandas Pinc yn paratoi ar gyfer y Nadolig. Maen nhw wedi ysgrifennu cân Nadolig. Mae’n swnio fel The Grateful Dead a Shakin’ Stevens yn cael damwain yng nghwmni George Michael a Mariah Carey. O diar. Beth yw teitl y gan? “Nadolig Rhithbair”. O…
Month: December 2024
1146: Yr affwys
Mae Daf wedi mynd oddi ar fin y ddaear, achos bod Alan wedi ei diarddel. Beth sy’n digwydd unwaith i chi gwympo oddi ar fin y ddaear? Wel, yn ôl y fflat-yrthyrs, mae affwys. Efallai bod ‘na grwban hefyd. Mewn gwirionedd mae tiwb mawr. I ble mae’r tiwb yn arwain? Dyfalwch. Dewch ymlaen — dyfalwch….
1145: Diarddeliad
Ar fin y ddaear. mae Alan yn cyfarch y cathod yn ffurfiol. — Yr ydwyf yn falch tu hwnt ohonoch, Jeffrey Jefferson. Bellach, byddwch yn sarjant. — Be? gofyn Jeff. — Wes rhaid i fi ymuno â’r fyddin? Ond mae Alan yn parhau. — Ond o’ch rhan chi, Dafydd, fe’ch diarddelaf yn syth. Ewch dros…
1144: Min y ddaear
Mae’r cathod wedi hwylio Troediwr y Wawr i fin y ddaear. Mae’n debyg bod y Fflat-yrthyrs yn gywir wedi’r cwbl. — Be ni fod i neud nawr? gofyn Jeff. — Sai’mod, medd Daf. — Falle ddylen ni fynd. — Allen ni dowlu pen Owain Glyndŵr i’r môr a mynd. — Syniad da. Yn sydyn, mae…
1143: Y Gambia
Ar ddamwain, mae’r cathod wedi hwylio eu llong bleser nhw i fyny Afon Gambia. Dyw Daf y gath ddim yn un da am lywio. — We ti’n gwbod bod Gambia bron yr un maint â Chymru o ran ‘i phoblogaeth? gofyn Daf. — Ti di bod yn darllen Wicipedia eto, nag wt? ymateb Jeff. Dyw…
1142: Senegal
Mae’r cathod wedi hwylio eu llong bleser nhw i Ddakar. Mae Daf y gath yn gynhyrfus iawn. Mae hi am yrru Land Rover neu ryw fodur all-ffordd arall, a rhoi shot ar Rali Dakar. Dyw Jeff ddim o blaid ei syniad. — Ble ti mynd i gal Land Rover? gofyn Jeff. — ‘Na un, draw…
1141: Moroco
Dychwelodd Bryn Teribl i’r llong bleser gyda gitâr fas newydd. Ble mae gweddillion yr hen un? Pwy a ŵyr. Nawr, mae Daf y gath a’i chwaer Jeff wedi hwylio eu llong bleser nhw i Foroco. Maen nhw wedi parcio ger Casablanca. Arhoswch am funud. Pam mae’r Esgob yng Nghasablanca? Mae e’n gweld y llong bleser…
