Mae’r enwog Bryn Teribl yn coginio. O na. Mae arogl ofnadwy yn dod o’r ffwrn. Beth wyt ti’n goginio, Bryn? Mae Bryn Teribl yn rhostio Owain Glyndŵr. Am arswydus! O’t ti i fod i goginio’r twrci, Bryn! Ni all Daf y gath penderfynu a ddylai hi ymyrryd neu beidio. Efallai ddim. Saesneg / English Oven…
Month: December 2024
1156: Heuldro
Mae Waldo Williams wedi mynd â Daf y gath a Kate Roberts i Gôr y Cewri ar gefn ei feic modur fel eu bod nhw’n gallu gwylio toriad y wawr ar ddiwrnod byrraf y flwyddyn. Mae llawer o hipis yno, sy’n gwisgo pob math o hetiau ysblennydd. Ai dyna hen dun rhostio’r enwog Bryn Teribl?…
1155: Plicio
Mae Santes Dwynwen wedi gofyn i Dewi Sant blicio’r sbrowts. Dim problem. Wel, dim problem ar wahân i’r sbrowts eu hunain. Ond mae gan Dewi Sant syniad da. Fesul un, mae e’n plicio’r sbrowts a rhoi’r dail allanol yn y bin. Yna, mae e’n rhoi’r sbrowts eu hunain yn y bin. Hwyl fawr, sbrowts. (Ydy…
1154: Car heddlu
Pam mae dyn mewn siwt goch yn y car heddlu hwnnw? Mae Siôn Corn wedi cael ei arestio. Pam? Pwy a ŵyr. Mae Daf y gath wastad wedi bod o’r farn bod Siôn Corn bach yn amheus. Pwy fydd yn dosbarthu’r holl anrhegion, te? O na. Dyma Daf, yn paratoi blwch cardbord i fynd ar…
1153: Goleuadau
Mae Daf y gath yn gwylio’r goleuadau ar y goeden Nadolig. Mae hi’n ceisio diffodd yr ysfa i ddinistrio popeth. Yn raddol, mae hi’n cael ei hypnoteiddio. Mae fel taith seicedelig, heb y cyffuriau, a heb fod angen mynd i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel a chlywed y Pandas Pinc. Mae Daf mewn…
1152: Cardiau
Mae Daf y gath wedi anghofio prynu cardiau Nadolig. O diar. Nawr, mae cardiau oddi wrth ffrindiau wedi dechrau cyrraedd. Arhoswch am eiliad. Nid dyna gerdyn. Dyna fil trydan. Nid dyna gerdyn chwaith. Dyna fil dŵr. Mewn gwirionedd, does neb wedi anfon cerdyn Nadolig at Daf. Phiw. Gall hi ymlacio. Saesneg / Englisb Cards Dave…
1151: Mins peis
Mae Bryn Teribl yn ceisio gwneud mins peis. Ydy e wedi gwneud mins peis o’r blaen? Nac ydy. Mae Bryn Teribl yn beryglus iawn yn y gegin, felly fel arfer bydd Santes Dwynwen yn cloi’r drws. Y tro diwetha iddo fe drio coginio rhywbeth, aeth e ar dân. Ond does dim llosgi heddiw. Mae blawd…
1150: Ffrij
Ble mae Owain Glyndŵr? Mae Owain Glyndŵr yn y ffrij, ymhlith yr holl fwyd ar gyfer y Nadolig. Pam? Achos bod Bryn Teribl am ei atal rhag pydru. Oes risg bydd e’n pydru? Oes. Yn amlwg. On’d ydy e’n teimlo’n oer? Ydy. Mae e’n crynu yn yr oerfel. O diar. Dyna drueni. Saesneg / English…
1149: Twrci
Mae Waldo Williams wedi dod i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel. Sut daeth e? Ar gefn ei feic modur. Mae e’n rhatlan drwy’r strydoedd yn beryglus. Mae Daf y gath yn sylwi ar rywbeth arall sydd ar gefn beic modur Waldo. Beth yw hwnnw? Twrci seicedelig yw e! Hwrê! Bydd e’n anodd ei…
1148: Coeden
Yn y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel, mae Daf y gath yn llygadrythu ar y goeden Nadolig. Beth sy’n bod ar y goeden? Dim byd. Pam mae Daf yn llygadrythu arni, te? Achos bod Daf off ei phen. Eto. Saesneg / English Tree In the Other Crymych beyond the horizon, Dave the cat…
