Pwy yw Alan? Un o Dduwiau’r Carpedi yw Alan. Duw y Siagpeil yw e. Mae’n cymryd llawer o ymdrech i gadw ffresni carped siagpeil. Dyna pam greodd Alan Shêc ‘n’ Fac yn y lle cyntaf. Roedd rhaid iddo fe roi’r ffresni’n ôl. Fel unrhyw dduw arall, mae Alan yn hollbwerus ac yn hollwybodol, ac mae…
Month: November 2024
1119: Synthetig
Mae’r Mawrthiaid wedi cael llwyddiant mawr yn eu labordy. Maen nhw wedi dadansoddi cyfansoddiad y Shêc ‘n’ Fac oedd ar wefusau un ohonyn nhw, ac felly mae ganddyn nhw’r fformiwla bellach. Maen nhw’n mynd i gynhyrchu Shêc ‘n’ Fac synthetig! Arhoswch am eiliad. Ydy hynny’n golygu taw sylwedd naturiol yw Shêc ‘n’ Fac fel arfer?…
1118: Babi
Beth mae Santes Dwynwen wedi bod yn gwneud tra bod Daf y gath a’i ffrindiau yn y gofod? Ydy hi wedi cael babi? Am gwestiwn twp! Nac ydy, dydy hi ddim wedi cael babi. Nid yw seintiau’n cael babanod. Maen nhw’n rhy sanctaidd. Beth fyddai barn y wlad pe tasai Santes Dwynwen yn cael babi?…
1117: Halio
Rhywsut, yn y gofod dwfn, mae Bryn Teribl wedi dadrewi. Mae e wedi bod yn archwilio’r Gwregys Kuiper, lle mae llawer o blanedau corachaidd. Er ei syndod mawr, mae e wedi darganfod planed gyfan sy’ wedi ei ffurfio o fath cyfarwydd o lwch. Mae hi’n bersawrus iawn. Pelen soled o Shêc ‘n’ Fac yw e….
1116: Cathod
Ar y blaned Mawrth mae Daf y gath a’i chwaer Jeff yn meindio eu busnes ei hunain yn ogof y Fenter Iaith. Yn sydyn, maen nhw’n clywed crafu y tu allan. Beth sy’n digwydd? Mae’n swnio fel anifail yn gwneud rhywbeth cyfarwydd iawn. Maen nhw’n mynd i gael cipolwg a gweld cath werdd yn gorchuddio…
1115: Plwton
Mae Bryn Teribl wedi bod yn teithio drwy Gysawd yr Haul ar drywydd cyflenwad newydd o Shêc ‘n’ Fac. Wrth iddo fe gyrraedd y blaned gorachaidd Plwton, mae’r tymheredd yn ofnadwy o isel. Erbyn hyn, mae’r Shêc ‘n’ Fac wedi colli ei bwysigrwydd. Pam hynny? Achos bod yr enwog Bryn Teribl wedi rhewi’n solet. Mae…
