Mae Daf y gath a’i chwaer Jeff wedi hwylio eu llong bleser nhw i Bortiwgal. Maen nhw wedi ei pharcio yn Lisbon. Mae Bryn Teribl yn rhedeg bant i’r ddinas yn gafael yng ngweddillion ei gitâr fas. Mae Daf yn edrych ar rywbeth rownd ar y cei. Beth yw hwnna? Pen Owain Glyndŵr yw e!…
Month: November 2024
1139: Ffrainc
Mae Daf y gath a’i chwaer Jeff wedi hwylio eu llong bleser nhw i fyny Afon Seine a’i barcio yn weddol agos i’r Tŵr Eiffel. Yn sydyn, mae gitâr fas yn cwympo o frig y tŵr. Gan bwyll! Mae’r gitâr yn taro’r pafin a malu’n deilchion. Pa fath o ynfytyn fyddai wedi gollwng gitâr fas…
1138: Mordaith Troediwr y Wawr
Mae Jeff a Daf ar fordaith! Am annisgwyl. Maen nhw wedi hen anghofio am Alan, Santes Dwynwen, a’r Dinbych-y-pysgod Arall y tu hwnt i’r wardrob. Hwyl fawr Alan! Dim ond atgofion pell yw Dewi Sant, Bryn Teribl ac Owain Glyndŵr erbyn hyn, heb son am Kate Roberts na Waldo Williams. — Ble ni mynd te?…
1137: Llong bleser
Ble mae Alan? Pwy a ŵyr. Ble mae Santes Dwynwen? Cael hwyl yng nghwmni Alan, siŵr o fod. Ond yn y Dinbych-y-pysgod Arall y tu hwnt i’r wardrob does dim sôn am Alan na Santes Dwynwen chwaith. Ar ôl iddyn nhw doddi’r gadair arian, Mae Daf y gath a’i chwaer Jeff yn derbyn tair punt…
1136: Y gadair arian
Yn y Dinbych-y-pysgod Arall y tu hwnt i’r wardrob, does dim sôn am Alan. Ydy’r pysgod wedi ei fwyta? Nac ydy. Mae’n well ganddyn nhw gyrri. Beth bynnag, ble mae Santes Dwynwen? Ydy hi’n dal i fod yn ei chawell? Nac ydy! Rhaid bod hi wedi dianc rywsut yng nghwmni Alan. Ond mae rhywbeth arall…
1135: Gwanwyn
Yn ôl yn y Dinbych-y-pysgod Arall mae’r cathod yn gweld bod y Shêc ‘n’ Fac i gyd wedi mynd. Ydy’r gwanwyn wedi cyrraedd? Nac ydy, dyw’r gwanwyn ddim wedi cyrraedd. Mae’r aelodau o Ferched y Wawr wedi cymryd y cyfan. O diar. Maen nhw off eu pennau’n gyfan gwbl. Fel canlyniad, mae rhywbeth od wedi…
1134: Ciwio
Mae Jeff wedi perswadio Daf y bydd digon o Dreamies gartref, ac felly mae’r cathod wedi penderfynu gadael Santes Dwynwen a’r diweddar Alan yn y Dinbych-y-pysgod Arall y tu hwnt i’r wardrob. Beth fydd yn digwydd iddyn nhw? Pwy a ŵyr? Does dim ots gyda’r cathod! Ond wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r ganolfan grefft, maen…
1133: Blydi hel
— Blydi hel, Daf, medd Jeff y gath. — Be ti neud? Ond dyw Daf ddim yn gallu ymateb. Mae ei cheg hi’n gorlifo â Dreamies. — Ma ffrind nowi ti mor sbŵci. Mae Daf yn llyncu’r Dreamies. — Ond ma hi mor garedig. Mae Jeff y gath wedi dod drwy’r wardrob i’r Dinbych-y-pysgod Arall…
1132: Atgyfodiad Alan
Mae Santes Dwynwen am achub Alan, Duw y Siagpeil, rhag y Frenhines Wen a Merched y Wawr. — Bydd rhaid i ti ladd fi, medd Alan, sydd wedi ei strapio wrth gadair blastig. — Beth? medd Santes Dwynwen. — Rhaid i ti stwffio darn o garped i miwn i geg fi fel bo fi ddim…
1131: Profedigaeth
Yn y Dinbych-y-pysgod Arall y tu hwnt i’r wardrob, mae Santes Dwynwen mewn sioc. Cadeirydd Merched y Wawr yw’r Frenhines Wen. O na. Ond yn waeth fyth, mae ganddi flwch o Dreamies. Mae hi wedi cynnig llond llaw ohonyn nhw i Daf y gath a’i swyno’n gyfan gwbl. Mae Daf wedi tanysgrifio i Ferched y…
