Mae Santes Dwynwen a Daf y gath yn y Dinbych-y-pysgod Arall y tu hwnt i’r wardrob. Mae’n braidd fel Narnia, ond mae Shêc ‘n’ Fac ym mhobman yn lle eira. Yn ôl pysgodyn hetiog cyfeillgar, y Frenhines Wen sy’n gyfrifol. Maen nhw’n mynd i gyfarfod Merched y Wawr yn neuadd y dref. Mae Daf y…
Month: November 2024
1129: Y Frenhines Wen
O diar. Yn y Dinbych-y-pysgod arall y tu hwnt i’r wardrob, mae’r pysgodyn hetiog wedi adrodd stori’r Frenhines Wen i Daf y gath a Santes Dwynwen. Mae hi’n swno’n horibl. Ydy hi’n gyfrifol am yr holl Shêc ‘n’ Fac? Siŵr o fod. Does dim cysondeb yn y straeon hyn. Mae Santes Dwynwen yn dechrau gweddïo….
1128: Sŵn
(Rhybudd: Tafodiaith Sir Benfro!) Pam mae sut gymaint o Shêc ‘n’ Fac ar y llawr yn y Dinbych-y-pysgod arall y tu hwnt i’r wardrob? Mae Daf y gath yn gofyn y cwestiwn i’r pysgodyn hetiog. — Sdim llefeleth ‘da fi, medd y pysgodyn. — Yn sydyn, ddâth sŵn ombeidus wrth i ni feindo’n busnes yn…
1127: Y Dinbych-y-pysgod Arall
Mae Daf y gath wedi mynd i mewn i wardrob Santes Dwynwen. Does dim cefn i’r wardrob, felly mae hi’n cadw i fynd. Yn y pen draw mae hi’n gweld tai lliwgar a harbwr darluniadwy. Ni ddim yn Kansas nawr, meddylia Daf. Mae popeth yn wyn. Ydy hi wedi bod yn bwrw eira? Nac ydy….
1126: Y gath, y santes, a’r wardrob
Mae Santes Dwynwen wedi cael gwared â Dreamies Daf y gath i gyd. Mae Daf y gath yn poeni na fydd hi’n bosib iddi fynd i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel byth eto heb Dreamies a’u heffeithiau seicedelig. Arhoswch am eiliad, pam mae eira yn chwythu allan o wardrob Santes Dwynwen? Mae Daf…
1125: Siwgr
Tra oedd pawb arall ar y blaned Mawrth, mae Santes Dwynwen wedi bod yn darllen. Peidiwch â becso — dyw hi ddim yn mynd i gynnal clwb darllen. Ond mae hi wedi bod yn darllen am fisgedi cathod. Yn ôl y sôn, mae llawer o siwgr mewn Dreamies. — Hei, Dwynners, ga i Dreamie plîs?…
1124: Iâr
Yn ôl yn y ganolfan grefft, mae’r enwog Kate Roberts wedi bod yn bwydo’r ieir. Ac yntau’n gwneud sawl cylchdro gorchest o’r blaned, fe gollodd Owain Glyndŵr ei ben ar y blaned Mawrth. Yn llythrennol. Heb ei ben, mae Owain Glyndŵr braidd fel iâr. Wel, iâr heb ben, o leiaf. Heb ei ben, mae’n anodd…
1123: Adre
Mae Mrs Trefnus wedi trefnu popeth. Mae hi wedi llwytho’r cathod i mewn i’r llong ofod newydd. Maen nhw’n mynd adre. Arhoswch am eiliad. Pam mae hi’n tywyllu’n sydyn? Mae Bryn Teribl yn cau’r heulwen allan â’i flwch cardbord â’r blaned gorachaidd o Shêc ‘n’ Fac mae e wedi halio’n ôl i Fawrth. Felly, maen…
1122: Trowsus
Ar y blaned Mawrth, mae Dewi Sant wedi colli ei drowsus. Ble maen nhw? Roedd e’n gweddïo’n dawel pan sylweddolodd ef eu bod nhw ar goll. Ydy rhywun wedi eu dwyn nhw? Yn debygol iawn. Arhoswch am eiliad. Beth mae Daf y gath yn wneud â’r holl beirianwaith yna, a pam mae trowsus Dewi Sant…
1121: Cynhyrchu
Mae ffatri’r Mawrthiaid yn cynhyrchu Shêc ‘n’ Fac synthetig ar ei gapasiti llawn, sy’n golygu eu bod nhw i gyd off eu pennau ar y powdr gwyn persawrus. Oes angen Menter Iaith Mawrth bellach? Oedd angen Menter Iaith Mawrth erioed? Dim mewn gwirionedd. Nawr bod y Mawrthiaid yn gaeth i’r Shêc ‘n’ Fac unwaith eto…
