Mae’r Pandas Pinc ynghanol eu gwiriad sain nhw. Maen nhw’n mynd i berfformio ym muarth y ganolfan grefft. Mae’r enwog Bryn Teribl yn sefyll wrth ochr y llwyfan â’i gitâr fas. Mae pawb yn gwneud eu gorau glas i’w anwybyddu. Ond mae rhywun arall yn codi stŵr ar y llwyfan. Pwy sy’n dadlau â’r dyn…
Month: September 2024
1055: Perfformiad
Mae Dewi Sant wedi trefnu cyngerdd yn y ganolfan grefft. Pwy sy’n mynd i chwarae? Y Pandas Pinc, dyna pwy! Waw! Mae Waldo Williams a Kate Roberts mor gyffrous. ‘Dyn nhw ddim wedi gweld Y Pandas Pinc o’r blaen. O’n nhw wedi cwympo mas, felly ‘dyn nhw ddim wedi chwarae gig gyda’i gilydd ers achau….
1054: Dibynadwyedd
Mae Daf y gath wedi penderfynu ehangu ei busnes hi. Pa fath o ehangiad fydd e? Ynghyd â’i ffidlau cyntefig, mae hi’n mynd i werthu campweithiau damweiniol yr enwog Owain Glyndŵr yn y ganolfan grefft. Bydd mwy o elw. Ac mae hynny’n golygu mwy o Dreamies. Pa mor ddibynadwy yw’r enwog Owain Glyndŵr fel artist?…
1053: Campwaith damweiniol
Un tro, dwedodd rhywun pe tasech chi’n rhoi teipiadur i fwnci, gyda digon o amser, byddai’n bosib iddo ail-greu campweithiau William Shakespeare. Annhebyg, ond yn bosib. Oes posibilrwydd tebyg wrth ystyried Owain Glyndŵr a’i ysgrifbinnau blaen ffelt? Gawn ni weld. Mae Kate Roberts yn mynd i weld sut mae e’n tynnu ymlaen. Mae hi’n ebychu…
1052: Ysgrifbinnau newydd
Mae’r enwog Owain Glyndŵr wedi derbyn pecyn newydd o ysgrifbinnau blaen ffelt oddi wrth Kate Roberts. Mae Daf y gath yn cadw allan o’r ffordd. Mae Kate Roberts yn annog Owain Glyndŵr i liwio’n ofalus. Mae e’n trio. Mae e’n trio mor galed. Ond mae’n anochel: mae Owain yn dechrau sgriblo. Mewn ffrwydrad o ynni,…
1051: Pryd o dafod
Mae Kate Roberts yn rhoi pryd o dafod i’r enwog Owain Glyndŵr am ei fod wedi sgriblo ar bopeth â’i ysgrifbinnau blaen ffelt. Mae Daf y gath yn lliwgar iawn. Does neb erioed wedi ei geryddu o’r blaen. Pryd o dafod go iawn yw e. Mae Owain Glyndŵr yn llefain. Mae e mor, mor sori….
1050: Sgriblo
Fe gafodd Owain Glyndŵr y sac am nad yw e’n un da iawn am weldio. Yn anffodus, dyw e ddim yn un da iawn am liwio chwaith. Rhoddodd Kate Roberts lyfr lliwio iddo fe, ynghyd â llwyth o ysgrifbinnau blaen ffelt. Roedd hi’n gobeithio byddai fe’n aros y tu mewn i’r amlinellau. Yn anffodus ddim….
1049: Lliwio
Mae’r enwog Bryn Teribl wedi gorfod diswyddo’r enwog Owain Glyndŵr. Dyw e ddim yn un da iawn am weldio. Felly sut mae cadw’r enwog Owain Glyndŵr yn brysur a’i atal rhag mynd i drafferth? Mae Santes Dwynwen yn awgrymu gallai Owain Glyndŵr ei helpu hi i glirio’r holl gwstard a metel o’r buarth. Mae Daf…
1048: Damwain
Roedd yr awduron i gyd wedi bod yn ymarfer eu tractora creadigol. Roedd Saunders Lewis wedi bod yn jyglo ei swsaffon ar gefn ei dractor tra oedd Kate Roberts a T. H. Parry-Williams yn canu caneuon Dafydd Iwan ar ei ffidlau yn y glaw. Ond mae damwain wedi bod. Ym muarth y ganolfan grefft, mae…
