Mae taith y Pandas Pinc wedi cyrraedd Worthing. Oes ganddyn nhw lawer o ffans yn Worthing? Nac oes. Mae’r neuadd yn wag. Mae Saunders Lewis off ei ben eto. Mae e’n cymryd llwyth o sbîd a dinistrio’r ystafell wisgo. O diar. Ar y llwyfan, mae aelod o’r gynulleidfa fechan yn clymu ei lasys at ei…
Month: September 2024
1066: Gwaethygu
Mae Saunders Lewis a Kate Roberts ar daith gyda’r grŵp Y Pandas Pinc. Mae Saunders Lewis wedi dychwelyd o’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel. Yn anffodus mae ymddygiad Saunders Lewis yn gwaethygu. Mae e’n ymddwyn yn wael yn y stryd, mae e’n ymddwyn yn wael y tu cefn i’r llwyfan, ac mae e’n…
1065: Cwffio
Mae Saunders Lewis wedi bod yn yfed. Ar y bws teithio, mae e’n ddadleugar iawn. Mae e am gwffio ag un o’r Pandas Pinc. Mae e’n bloeddio nerth ei ben dylai’r panda gael ei ymddiswyddo fel aelod o’r band. Mae Kate Roberts a Daf y gath yn anwybyddu’r holl gweryla. Bydd Saunders Lewis yn cwympo’n…
1064: Rhydychen
Mae taith y Pandas Pinc wedi cyrraedd Rhydychen. Pam mae enw Cymraeg ar Rydychen? Pwy a ŵyr. Oes llawer o ychen yn Rhydychen? Nac oes. Pam lai? Achos iddyn nhw i gyd foddi yn y rhyd. O diar. Eniwê. Oes llawer o ffans y Pandas Pinc yn Rhydychen? Nac oes. Mae cwpl o fyfyrwyr wedi…
1063: Cannock
Mae’r Pandas Pinc yn chwarae gig yng Nghannock. Mae Cannock yn dwll o le. Oes gan y Pandas Pinc lawer o ffans yng Nghannock? Nac oes. Felly pam ydyn nhw wedi teithio yno? Achos nad yw Daf y gath yn un da am drefnu teithiau. Yn y cyfamser, mae Saunders Lewis wedi bod yn yfed….
1061: Storm
Mae storm wedi bod. Mae Kate Roberts ar daith fel aelod newydd o’r Pandas Pinc. Mae hi wedi bod ar ddihun trwy’r nos ar y bws teithio. Ble maen nhw’n mynd? Maen nhw’n mynd i Gannock. Pam maen nhw’n mynd i Gannock? Mae Daf y gath wedi trefnu taith o anymarferol. Bydd y gigs mewn…
1060: Taith
Mae’r Pandas Pinc yn mynd ar daith. Mae Kate Roberts a Saunders Lewis wedi ymuno â’r grŵp. Mae Kate Roberts yn mynd i chwarae’r crwth trydan, ac mae Saunders Lewis yn mynd i ganu. Wel, dim cweit. Mae Saunders Lewis yn mynd i floeddio a ffidlo â’r amps i gyd. Pwy yw rheolydd y daith?…
1059: Recriwtio
Er bod pawb yn y gynulleidfa off eu pennau ar getamin Daf y gath, mae’r Pandas Pinc wedi chwarae un o’u gigs gorau erioed ym muarth y ganolfan grefft. Wedi gorgynhyrfu, mae un ohonyn nhw newydd chwalu ei gitâr yn erbyn tractor Waldo Williams. Y tu cefn i’r llwyfan, mae cynllun ar droed. Mae’r Pandas…
1058: Crwth
Mae problem. Pryd bynnag y chwery Kate Roberts ei chrwth, mae Owain Glyndŵr yn dechrau sgriblo â’i ysgrifbinnau blaen ffelt. Ni all cetamin Daf y gath ei rwystro e, hyd yn oed. Mae e jyst yn sgriblo’n arafach. O diar. Beth sy’n digwydd nawr? Mae’r munchies arno fe. Mae e’n bwyta ei ysgrifbinnau blaen ffelt,…
1057: Cwsg
Mae cyngerdd y Pandas Pinc ar fin dechrau ym muarth y ganolfan grefft. Erbyn hyn, mae pawb yn y gynulleidfa wedi derbyn Dreamies arbennig oddi wrth Daf y gath. Dreamies seicedelig ydyn nhw? Wel, nac ydyn. Dim cweit. Beth sydd ynddyn nhw? Cetamin. O, Daf. Wel, o leia fydd neb yn mynd ar daith seicedelig…
