Mae’r enwog Bryn Teribl wedi bod yn ymarfer ei weldio. O diar. Arhoswch am funud. Pam mae rhywun yn cnocio ar ddrws y tŷ bach? Yn bwysicach fyth, pam mae rhywun yn cnocio ar ddrws y tŷ bach o tu fewn y tŷ bach? Wel. Weldiodd Bryn Teribl y drws i’w ffrâm tra oedd Dewi…
Month: August 2024
1026: Tân
Mae sied weldio’r enwog Bryn Teribl wedi mynd ar dân. – Be ti ‘di neud, Bryn? gofyn Daf y gath. – Weldo, meddai Bryn. Roedd e’n trio weldio Dreamies at ei gilydd i wneud un Dreamie enfawr. Doedd e ddim yn llwyddiannus. Oes posib weldio Dreamies at ei gilydd? Nac oes. Ydy Dreamies yn fflamadwy?…
1025: Cymylau
Mae’r enwog Bryn Teribl yn anelu ei dortsh ocsy-asetylen at y nefoedd. – Be ti neud, Bryn? gofyn Daf y gath. – Weldo, meddai Bryn. O diar. Mae Bryn Teribl druan yn ceisio weldio’r cymylau at ei gilydd. Ynfytyn yw e. Saesneg / English Clouds The famous Bryn Teribl is pointing his oxy-acetylene torch at…
1024: Weldio
Mae Jeff y gath wedi cael hen ddigon o fod yn Brif Weinidog. Mae hi’n ymddiswyddo, a hyrddir y wlad i drobwll anhrefn. O diar. Yn y cyfamser, mae’r enwog Bryn Teribl wedi prynu sied fawr am hanner can ceiniog. Mae llythrennau uwchben y drws, mewn llawysgrif anwastad. “Weldo”. Dyma ei weithdy newydd. Bydd yn…
1023: Caffi
Mae Daf y gath ar ei gwyliau yng ngogledd Cymru. Mae hi am osgoi’r Eisteddfod. Mae hi’n mynd i gaffi yng nghwmni’r enwog Franz Kafka. Mae Franz Kafka’n rhyfeddol o fach. Ac mae e eisiau selsig. – Gawn ni fwrdd, plîs? meddai Daf i’r forwyn fwrdd. – Duw a’n helpo, cath arall sy’n medru siarad,…
1022: Gwres
Mae pawb yn cwyno am y gwres. Ni all y llywodraeth lywodraethu. Ni all y cyhoedd gyhoeddi. Ni all yr adeiladwyr adeiladu. Does dim byd yn digwydd o gwbl. Arhoswch am funud. Beth yw’r sŵn erchyll ‘na? O diar. Mae’r enwog Bryn Teribl yn ceisio gwneud ei uned aerdymheru ei hun. Bydd hwnnw’n sicr o…
