Mae Waldo Williams wedi troi lan eto. Yn lle rhatlan lawr y stryd ar ei hen feic modur, mae e’n dreifio dyrnwr medi. Mae e’n bwriadu ei ddefnyddio wrth roi cynnig ar y gystadleuaeth dractora creadigol. — On’d yw defnyddio dyrnwr medi yn mynd yn groes i’r rheolau? gofyn Daf y gath i’w chwaer. —…
Month: August 2024
1046: Swsaffon
— Jeff, beth yw swsaffon? gofyn Daf y gath i’w chwaer. — Math o diwba chi’n gallu ´i wisgo wrth ‘i chwarae yw swsaffon, etyb Jeff. — Pam wt ti’n gofyn? — Dim rheswm. — Aros am eiliad. Be’ ma Saunders Lewis yn neud? Mae Saunders Lewis ar gefn tractor ym muarth y ganolfan grefft,…
1045: Tynged y tractor
Tra bod T. H. Parry-Williams a Kate Roberts yn ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth dractora creadigol, mae rhywun arall yn rhoi darlith ddiflas i gynulleidfa anfodlon. Pwy yw e? Dyma i ni’r enwog Saunders Lewis, sydd yn ddifrifol iawn. Beth yw pwnc ei ddarlith? Pwy a ŵyr. Rhywbeth am dynged, efallai. Does neb yn gwrando….
1044: Her
Mae si ar led bod yr enwog T. H. Parry-Williams yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn lleol oherwydd ei driciau ar gefn ei dractor. Mae e wedi bod yn atynnu cynulleidfa fawr i’r ganolfan grefft. Nid yw’r enwog Kate Roberts yn hapus. Mae hi’n dod yn ôl i siop peiriannau amaethyddol Jeff y gath a…
1043: Ffidil amaethyddol
Mae’r bardd enwog T. H. Parry-Williams wedi bod yn cael lot o hwyl gyda’i dractor a’i aradr newydd ym muarth y ganolfan grefft. Ond nawr mae e am fywiogi pethau hyd yn oed yn fwy. Mae e am wneud triciau. O diar. Mae T. H. yn ymweld â siop ffidlau Daf y gath, prynu un…
1042: T.H.
Mae rhywun anghyfarwydd yn y ganolfan grefft. Mae e’n gwylio’r enwog Bryn Teribl sy’n weldio, a myfyrio’n dawel am oferedd a gwagedd bywyd. Ie, dyna ni: mae’r bardd enwog T. H. Parry-Williams wedi troi lan. Mae e’n gofyn i’r enwog Bryn Teribl fyddai’n bosib iddo drwsio ei feic. — Weldo, medd Bryn, a pharhau â’i…
1041: Ulw
Llwyddodd Bryn Teribl i berswadio’r enwog Waldo Williams bod angen weldio ar ei feic modur peryglus. Dyw Waldo ddim wedi ei weld e wedi ei weldio. (Peidiwch â cheisio dweud hynny ar ôl cwpl o ddiodydd.) Pam hynny? Aeth beic modur Waldo ar dân. Does dim byd ar ôl ond ulw. O diar. Bydd angen…
1040: Bardd
Beth yw’r sŵn ombeidus ‘na? Dyma Waldo Williams, y bardd enwog, yn rhatlan lawr y stryd ar hen feic modur. Dyw’r beic modur ddim yn edrych – na swnio – yn saff o gwbl. Ond mae Waldo’n drwm ei glyw a llawn ffydd a ffolineb, felly ymlaen ag e. Mae e’n stopio’r beic modur o…
1039: Awdures
Mae’r enwog Kate Roberts wedi troi lan yn y ganolfan grefft! Arhoswch am funud. On’d yw hi wedi marw? Ydy. Sut ddigwyddodd hynny, felly? Pwy a ŵyr. Sombi yw hi? Efallai. Mae hi’n defnyddio geiriau anghyfarwydd fel “oblegid” trwy’r amser. Dyw Daf y gath ddim yn ei deall hi o gwbl. Er hynny, mae hi’n…
1038: Peiriannau amaethyddol
Mae Jeff y gath wedi penderfynu gwerthu peiriannau amaethyddol yn y ganolfan grefft. Ydy hi’n gwneud y peiriannau eu hun? Nac ydy. Ond maen nhw’n edrych yn ffantastig. Mae peiriant coch newydd gyrraedd. — Beth ma hwnna’n neud, Jeff? gofyn Daf ei chwaer. — Does neb yn gwbod, etyb Jeff, — ond ma’n edrych yn…
