Mae grŵp o bobl ifanc yn dod i mewn i gaffi Santes Dwynwen. — Ga i goffi â llâth ceirch plîs? medd merch mewn het ffasiynol. — Na chewch, medd Santes Dwynwen. — Sdim ond cwstard ‘da fi. — Felly ga i wydred o gwstard â llâth ceirch? — Na chewch. Wes ‘na ddim llâth…
Month: August 2024
1036: Caffi
Mae Santes Dwynwen wedi penderfynu agor caffi yn y ganolfan grefft. Fydd coffi ar gael? Na fydd. Fydd te ar gael? Na fydd. Beth am siocled poeth? Nage. Yn lle cynnig diodydd normal, mae hi’n mynd i arbenigo mewn “cwstard yfed”. Beth yw hwnna? Peidiwch â gofyn. Saesneg / English Café Santes Dwynwen has decided…
1035: Dryswch
Mae busnes newydd Franz Kafka yn datblygu’n dda. Yn dilyn esiampl Dewi Sant, mae e’n cynhyrchu selsig crefft yn y ganolfan grefft. Am syniad ardderchog! Yn anffodus, mae ei uned y drws nesaf i uned Dewi Sant, ac mae e’n defnyddio’r un math o fagiau. Ac mae ei selsig yn edrych yn union fel sigárs…
1034: Ffidil
Daf y gath wedi sefydlu ei busnes newydd. Mae hi’n mynd i wneud ffidlau! Yn y ganolfan grefft, mae Daf yn ceisio gwneud ei ffidil gyntaf. Nid yw pawennau’n ddefnyddiol iawn yn y cyd-destun hwn, felly mae angen help arni hi. Pwy sy’n mynd i helpu? Yr enwog Bryn Teribl, wrth gwrs. — Shwd ar…
1033: Canolfan Grefft
Er syndod mawr i bawb, mae busnes weldio’r enwog Bryn Teribl yn ffynnu. Mae ei gwsmeriaid i gyd wrth eu boddau â’i waith. ‘Dyn nhw heb chwerthin gymaint ers achau. Felly mae Dewi Sant yn cael syniad. Mae e’n prynu’r adeilad y drws nesa i weithdy Bryn Teribl. Yma bydd e’n cynhyrchu sigârs crefft. Emosiwn…
1032: Gwres
Mae’r tywydd yn braf. Mae hi’n heulog, ac mae’r nefoedd yn las. Mae Dewi Sant a Santes Dwynwen yn torheulo gyda’i gilydd. Mae Santes Dwynwen wedi prynu bicini newydd yn arbennig, ond mae hi’n rhy swil i’w wisgo. Mae’r cathod wedi ymguddio yn y llwyni. Mae Franz Kafka, sydd yn rhyfeddol o fach, yn bwyta…
1031: Dysgu
Mae’r enwog Owain Glyndŵr wedi bod yn dysgu. Mae tro cyntaf i bopeth. — Beth mae Owain wedi bod yn dysgu, Bryn? gofyn Daf y gath i’r enwog Bryn Teribl. — Weldo, medd Bryn. Wrth gwrs. Digwydd bod, mae Owain Glyndŵr yn un da iawn am weldio. Mae e wedi bod yn ymarfer trwsio ei…
1030: Peiriant chwistrellu hopys
Mae’r enwog Bryn Teribl wedi dod o hyd i beiriant arall yn ei sied weldio. Mae arwydd ar y wal yn dweud taw peiriant chwistrellu hopys yw e. — Shwt ma’n gwitho, Bryn? gofyn Daf y gath. — So fe’n gwitho o gwbwl, medd Bryn. — Be sy’n bod arno fe? — Ma angen weldo….
1029: Peiriant torri gwair
Mae’r enwog Bryn Teribl wedi dod o hyd i hen beiriant yn ei sied weldio. Hen beiriant torri gwair yw e, ond mae’n edrych fel offeryn artaith. Peiriant torri coesau, efallai. Dyw’r peiriant ddim yn gweithio, beth bynnag. — Shwd wt ti’n mynd i fendio’r peiriant, Bryn? gofyn Daf y gath. — Weldo, medd Bryn….
1028: Traed mewn cyffion
Mae’r enwog Bryn Teribl yn edrych yn fodlon ei fyd. — Be’ ti di bod yn neud, Bryn? gofyn Daf y gath. — Weldo, meddai Bryn. Wrth gwrs. Yr eiliad hon, mae Franz Kafka, sydd yn rhyfeddol o fach, yn hopian heibio iddyn nhw yn araf iawn. Mae’n ymddangos fel bod yr enwog Bryn Teribl…
