Mae Bryn Teribl wedi penderfynu sefyll yn erbyn Daf y gath yn yr etholiad cyffredinol hefyd. Mae e wedi bod yn codi arian ar gyfer ei ymgyrch trwy berfformio mewn cyngherddau gyda’i gitâr fas. Hyd yn hyn, mae e wedi codi pedwar deg tri o bunnoedd. Arhoswch am funud. Pwy yw hwnnw yn yr ardd?…
Month: June 2024
969: Sioc
Mae pôl piniwn newydd wedi bod. Mae pawb yn bwriadu pleidleisio dros Jeff y gath! Os yw’r pôl yn iawn, bydd Jeff yn derbyn cant y cant o’r bleidlais, a bydd Daf yn derbyn dim byd. O diar. Mae Daf y gath mewn sioc. Beth mae Daf yn mynd i wneud? Mae hi’n mynd i…
968: Ymgeisydd newydd
Mae addewidion Daf y gath yn mynd yn fwyfwy afrealistig. Ond am ryw reswm, mae hi’n gwneud yn dda yn y polau piniwn. Mae ofn ar Jeff ei chwaer y bydd Daf yn llwyddiannus yn yr etholiad cyffredinol a naill ai dechrau’r Trydydd Rhyfel Byd, neu fwyta’r Dreamies i gyd. Mae hi wedi cael hen…
