Mae rhywun wedi cyhoeddi rhywbeth sy’n peri gofid i Daf y gath a’r holl ymgeiswyr eraill. Mae pawb yn bwriadu atal pleidlais yn yr etholiad cyffredinol. Pawb, hynny yw, ond Mrs. Llinos Trowsus sy’n byw ar ffiniau Aberaeron. Felly allai Mrs. Llinos Trowsus fod yn bwerus iawn. Ond arhoswch am funud. Beth sy’n digwydd? Mae…
Month: June 2024
979: Achub y dydd
Mae Dewi Sant wedi bod yn gwylio ymgyrch etholiadol Daf y gath â diddordeb mawr. Mae e wedi bod yn treulio oriau meddw o flaen y teledu, yn chwerthin ar ei phen hi. Mae e hefyd wedi bod yn cynllwynio. Mae’n amlwg taw methiant llwyr bydd ymgyrch Daf y gath. Felly, pwy all achub y…
978: Tlodi
Mae Daf y gath yn honni roedd hi’n dlawd fel cath fach. Mae hi am ddangos ei bod hi’n deall problemau’r boblogaeth gyffredinol. Dyw hi ddim. Nid yw’r cyfwelydd yn ei chredu hi chwaith. – Pan o’n i’n ifanc we dim Dreamies ar ga’l. We dim catnip hyd yn o’d. We rhaid i fi ddiddanu’n…
977: Maniffesto
Mae Daf y gath wedi cyhoeddi ei maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Dyw e ddim o ddiddordeb i neb. Man a man iddi fod wedi dosbarthu tudalennau gweigion. Byddai hynny wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer rhestrau siopa, o leiaf. Beth sydd ym maniffesto Daf y gath? Pwy a ŵyr. Rwtsh llwyr, siŵr o…
976: Codi trethi
Mae Daf y gath yn ceisio tanseilio ymgyrch etholaethol ei chwaer, Jeff. Mae hi’n dweud celwyddau’n ddi-baid. Nawr, mae hi’n ceisio argyhoeddi’r cyhoedd bod Jeff y gath yn mynd i godi trethi ar Dreamies a catnip. “Jeff newydd, Jeff ddrud” yw ei slogan newydd. Does neb yn ei chredu hi. Mae cefnogaeth Jeff yn y…
975: Egwyddorion
Does gan Daf y gath ddim egwyddorion. Mae hi eisiau ennill yr etholiad cyffredinol, dyna i gyd. Er bod Jeff y gath wedi sgorio cant y cant yn y pôl piniwn diweddaraf, mae Daf y gath wedi cael syniad. Mae hi’n mynd i sbwylio enw da Jeff unwaith ac am byth. Mae hi’n dechrau honni…
974: Amser da
Mae’r enwog Bryn Teribl wedi bod yn cael amser eithriadol o dda yn ymgyrchu. Mae e wedi gwario’r holl arian dderbyniodd mewn amlen frown ar gitâr fas newydd a seinydd enfawr. O diar. Fel canlyniad, mae pob araith ei ymgyrch bellach yn dechrau gydag unawd fâs swnllyd sy’n hanner awr o hyd. Gall gwleidyddiaeth fod…
973: Dadl
Mae Daf y gath a’i chwaer Jeff yn ymddangos mewn dadl ar y teledu fel rhan o’u hymgyrchoedd. O diar. Ydy Daf yn mynd i ddweud mwy o gelwyddau? Ydy. – Mae Jeff y gath yn mynd i gostio biliynau o bunnoedd, meddai Daf. – Fi ddim, meddai Jeff. – Y dwpsen. – Wel, dyna…
972: Gwasg
Mae’r wasg i gyd wedi troi yn erbyn Daf y gath. Fel sbloet hysbysebu, roedd hi’n bwriadu chwydu y tu allan i neuadd lle’r oedd Jeff y gath yn rhoi araith. Mae pob sylw yn werth ei gael, wedi’r cwbl. Ond chaeth hi mo’r cyfle i berfformio i gynulleidfa o newyddiadurwyr. Doedd dim newyddiadurwyr y…
971: Taflu
Wel dyna syndod. Ar ôl iddo dderbyn amlen frown ddirgel, trosfeddiannodd yr enwog Bryn Teribl blaid gyfan. Pa blaid ydy’r enwog Bryn Teribl wedi trosfeddiannu? Y Blaid Cwstard. Dyw Santes Dwynwen ddim yn hapus. Roedd hi’n gobeithio rhedeg y parti rywbryd. Hen bolisi’r blaid oedd “cwstard i bawb”, ond nawr mae Bryn Teribl am oresgyn…
