Erbyn hyn, mae pawb wedi cael hen ddigon o’r etholiad cyffredinol, hyd yn oed yr ymgeiswyr. Mae taflenni gwleidyddol ym mhobman. Mae gan Dewi Sant ddatrysiad rhyfeddol o syml i’r broblem. Mae e wedi rhoi’r bin ailgylchu o dan y twll llythyrau. Mae bob un daflen sy’n dod trwy’r drws yn mynd yn syth i’r…
Month: June 2024
989: Arswyd
Mae ymddygiad Daf y gath yn ystod ei hymgyrch etholiadol wedi codi arswyd ar ei chwaer. Mae Jeff yn meddwl tybed oedd hi erioed yn adnabod ei chwaer mewn gwirionedd. Dyw Jeff ddim hyd yn oed eisiau bod mewn grym dim mwy. Ond all hi ddim tynnu’n ôl fel ymgeisydd nawr. Mae hi wedi ymrwymo…
988: Cacennau
Mae ymgyrch etholiadol Mrs. Llinos Trowsus yn gwneud yn dda. Fel Jeff y gath, mae hi’n gall. Ond beth sydd? Mae hi wedi bod ar ddihun drwy’r nos, yn pobi. Mae’n hi’n bwriadu defnyddio cacennau i lwgrwobrwyo’r pleidleiswyr i gyd, mae’n debyg. O diar. Mae Daf y gath yn galw’r heddlu, er ei bod hi’n…
987: Crysau du
Mae Jeff y gath yn boblogaidd iawn. Mae hi’n garedig ac yn gall, ac mae hi’n un da am hela. Beth allai fynd o’i le? Dim byd! Arhoswch am funud. Pam mae lluoedd o bobl yn gorymdeithio trwy’r strydoedd mewn iwnifformau du? O na. Mae Daf y gath wedi troi at ffasgiaeth. Mae hi’n addo…
986: Gamblo
Mae rhywun wedi bod yn gamblo. Arhoswch am funud. Mae pawb wedi bod yn gamblo. Mae Daf y gath wedi betio pum punt taw hi fydd y Prif Weinidog nesaf. Annhebyg iawn y bydd hi’n llwyddiannus. Mae Dewi Sant wedi betio deg punt y bydd Jeff y gath yn ffurfio’r llywodraeth nesaf. Mae arian Dewi…
985: Croendenau
Mae Daf y gath yn ymddangos mewn dadl ar y teledu. Mae rhaid iddi ymateb i gwestiynau gan y gynulleidfa. Mae’r gynulleidfa’n anghwrtais iawn. A dyw’r cyflwynydd ddim yn lot fawr o help. Mae’r gynulleidfa yn hwtio bob tro mae Daf yn ateb cwestiwn â mwy o gelwyddau. – RHAG EICH CYWILYDD, medden nhw. Mae…
984: Ymlacio
Mae Jeff y gath yn ymlacio. Gan fod pawb arall yn distrywio eu hymgyrchion etholiadol eu hunain, does dim angen arni hi wneud dim byd. Bydd hi’n trechu Daf y gath heb drafferth. Does dim ond iddi aros, ac iddi hi fydd yr holl bŵer. Am etholiad pleserus! Mae rhaid i Jeff hefyd beidio gwneud…
983: Chwyddiant
Mae chwyddiant wedi gostwng, sy’n meddwl bod popeth yn parhau i fod yn ddrud iawn. Mae blwch o Dreamies yn costio mil o bunnoedd bellach, ac mae pawb yn dweud taw Daf y gath sydd ar fai. Rhywsut. Gan nad yw hi’n rheoli’r wlad ar hyn o bryd, does neb yn sicr pam taw Daf…
982: Creadaeth
Mae Dewi Sant wedi cyhoeddi polisi brys. Bydd rhaid i bob ysgol dysgu creadaeth i’w disgyblion. Mae Dewi yn dweud taw gwenwyno meddyliau yw addysg fodern. Felly mae rhaid mynd yn ôl at yr hen draddodiadau, fel dysgu pethau sy’n mynd yn groes i wyddoniaeth a synnwyr cyffredinol. Ond dyw e ddim hyd yn oed…
981: Baromedr
Baromedr yw etholaeth Daf y gath. Pam hynny? Achos bod cromlech yr enwog Syd Moron yn monitro’r tywydd trwy’r dydd. Am anhygoel! Hefyd, mae’r enwog Syd Moron wedi sefydlu maen hir newydd â chyfrifiadur ynddo, sy’n monitro’r polau piniwn. Beth mae’r polau piniwn yn dweud heddiw? Mae cefnogaeth gynyddol i Mrs. Llinos Trowsus! Mae Jeff…
