Mae’r ffermwr ifanc wedi dod â gyr o wartheg i westy Dewi Sant. Gan ei fod e wedi yfed cymaint o laeth, mae Owain Glyndŵr yn catatonig yn y lolfa. Mae’r gwartheg wedi symud i’r ardd, lle maen nhw wedi sefydlu pwyllgor. Pwy sy’n cadeirio’r pwyllgor? Buwch ddu a gwyn yw’r cadeirfuwch. Yn ystod eu…
Month: April 2024
913: Llaeth
Mae Owain Glyndŵr yn cael ei laeth. Mae e’n gwrthod yfed dim byd arall. Ond laeth pwy yw e? Wel, dyna gwestiwn. Mae’r ffermwr ifanc wedi bod yn “ffarmo” eto. Mae e wedi dod â gyr o wartheg i’r gwesty, ac maen nhw’n achosi trafferth yn y dderbynfa. Mae Owain Glyndŵr yn ceisio godro’r gwartheg…
912: Dosbarth celf
Mae Dewi Sant wedi penderfynu cynnal dosbarth celf yn lolfa’r gwesty. Mae gan y lolfa ffenestri enfawr sy’n edrych allan ar olygfa hyfryd yr ardd, yn gynnwys cromlech yr enwog Julian Cope. Mae’r gwesteion i gyd yn gyffrous iawn. Do’n nhw ddim yn disgwyl gwneud celf ar eu gwyliau. Mae Daf y gath yn dal…
911: Ysbwriel
Mae Bryn Teribl yn helpu Santes Dwynwen eto. Gofynnodd hi iddo fe fynd â’r biniau allan. Nawr, mae ysbwriel dros y lle i gyd. O diar. – Pam fod sbwriel ym mhobman? gofyn Daf y gath. Ond dyw’r enwog Bryn Teribl ddim yn ymateb. All e ddim. Mae ei geg yn llawn o ysbwriel. O,…
910: Helpu
Mae’r enwog Bryn Teribl yn “helpu” Santes Dwynwen yng nghegin y gwesty. Mewn gwirionedd, mae hynny’n meddwl ei fod e’n achosi trafferth. Lembo yw Bryn Teribl. Mae Santes Dwynwen yn gwacáu’r sychdaflwr. Mae hi wedi bod yn golchi amrywiaeth o glytiau meicro-ffeibr. Mae hi’n rhoi’r clytiau sych ar y dresel. Yn anffodus mae’r enwog Bryn…
909: Damwain
Mae’r planhigion Dreamies wedi diflannu. O diar. Mae Daf y gath yn mynd i banig. Dyw hi ddim yn gallu mynd i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel heb ddigon o Dreamies. Ac yn waeth na hynny, mae hi angen ffics i leddfu’r symptomau diddyfnu. Dyw hi ddim am brofi’r hen groen gŵydd. Ond…
908: Ffrwythau
Plannodd y ffermwr ifanc Dreamies Daf y gath yng ngardd gwesty Dewi Sant. Nawr, maen nhw wedi aeddfedu. Beth yw’r pethau sgwâr rheiny sy’n hongian o’u canghennau? Ffrwythau sy’n cynnwys Dreamies ydyn nhw! Mae Daf y gath mor, mor gyffrous. Mae hi eisiau mynd yn syth yn ôl i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r…
907: Egino
Plannodd y ffermwr ifanc Dreamies Daf y gath fel hadau, ar ôl iddo fe aredig gardd y gwesty. Nawr, maen nhw’n egino. Am annisgwyl. Sut olwg sydd ar blanhigion ifanc Dreamies? Maen nhw’n edrych fel planhigion normal, ond maen nhw’n sgwâr. Mae Daf y gath yn mynd yn wyllt â chyffro. Mae hi’n edrych ymlaen…
906: Aredig
Mae’r ffermwr ifanc o Geredigion allan yng ngardd y gwesty. Mae e wedi clymu aradr yn ei dractor. Mae Daf y gath yn ei wylio e. – Be ti neud? gofyn Daf. – Ffarmo, meddai’r ffermwr ifanc. – Dreifo’r tractor. Mae’n amlwg ei fod e wedi meddwi o hyd. Mae e’n dechrau gwasgaru hadau yn…
905: Ffermwr ifanc
Mae gwesty Dewi Sant wedi bod yn brysur iawn dros benwythnos y Pasg. Ond mae bron i bawb wedi dychwelyd adref erbyn hyn. Pawb, hynny yw, heblaw am ffermwr ifanc. Mae’r ffermwr ifanc yn dod o Geredigion. Mae e’n eistedd yn y bar yn yfed fodca am naw o’r gloch y bore. Mae e’n feddw…
