Mae Dewi Sant a Daf y gath ar eu gwyliau. Maen nhw wedi cyrraedd y Trydydd Crymych y tu ôl i’r mynydd, lle mae’r Mistar Urdd Arall yn rhedeg Urdd Anobaith Cymru. Does dim Dreamies yn y Trydydd Crymych. Does dim hwyl o gwbl. Mae Daf y gath yn hiraethu am ei chwaer Jeff, hyd…
Month: April 2024
923: Urdd anobaith
Mae miloedd o diwtoriaid Cymraeg yn y Trydydd Crymych y tu ôl i’r mynydd. Mae Dewi Sant yn deffro’n sydyn. Mae rhywun uwch ei ben. O diar. Mae Mistar Urdd arall. Y Mistar Urdd hwn sy’n rhedeg Urdd Anobaith Cymru. Yn hytrach na gorfodi plant i ddawnsio, mae’r Mistar Urdd Arall yn canolbwyntio ar dreigladau….
922: Y Trydydd Crymych
Mae Dewi Sant a Daf y gath wedi bod yn bwyta gormod o cebábs. Mae’r cebábs wedi cael effaith annisgwyl, seicedelig. Ond ‘dyn nhw ddim yn seicedelig mewn ffordd dda. Wrth i’r profiad seicedelig ddechrau, roedd Daf y gath yn disgwyl cyrraedd y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel, lle mae’r Pandas Pinc yn…
921: Siop Cebábs
Mae Dewi Sant a Daf y gath ar eu gwyliau yng Nghrymych. Nid y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel, ond y Crymych go iawn. Hyd yn hyn, maen nhw wedi ymweld â’r garej sawl gwaith. Does dim llawer o adloniant yng Nghrymych. Neu felly feddyliai Dewi Sant. Ond nawr, mae Dewi Sant wedi…
920: Gwyliau
Mae Dewi Sant ar ei wyliau. Mae e wedi mynd â Daf y gath i Grymych. Oes atyniadau twristaidd yng Nghrymych? Nac oes. Does dim ond garej. Yn anffodus, dyw Dewi Sant ddim yn gwybod sut i gyrraedd Y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel, lle mae pethau seicedelig, hudolus yn digwydd. Yn fwy…
919: Ystlum
Mae Jeff y gath wedi dal ystlum. O diar. Dyw’r ystlum ddim yn hapus o gwbl. – Gad lonydd i fi, meddai’r ystlum. – Dim siawns, meddai Jeff a brathu’n galetach. – Aw, meddai’r ystlum. Mae Daf y gath yn gwylio’r frwydr. Dyw’r frwydr ddim yn un teg. Yn sydyn, mae’r ystlum yn dianc. Hwrê!…
918: Caws
– Oes caws yn yr oergell? gofyn Dewi Sant. – Be ti feddwl, “oes caws yn yr oergell”? mae Daf y gath yn gofyn yn ôl. – Mae caws yn yr oergell bob amser. Ond heddiw, mae pethau’n wahanol. Nid dim ond yn yr oergell y mae caws. Mae caws yng nghypyrddau’r gegin, yn yr…
917: Siaced ledr
Mae siaced ledr newydd gyda’r enwog Julian Cope. Mae e’n edrych yn ffantastig. Mae pob elfen o’i wisg yn lledr – ei siaced, ei drowsus, ei sbectol haul hyd yn oed. Mae e’n edrych fel seren roc go iawn. Mae Daf y gath yn rhythu arno fe. – Ar beth w’t ti’n edrych? gofyn Julian…
916: Cwymp
Mae capfaen cromlech yr enwog Julian Cope wedi cwympo oddi ar y meini eraill. O diar. Pwy allai fod wedi gwneud y fath beth? Ar y gwartheg yw’r bai. Maen nhw wedi bod yn rhwbio eu hunain yn erbyn y meini hirion. Niwsans yw’r gwartheg. I fod yn onest, niwsans yw’r ffermwr ifanc a’i “ffarmo”….
915: Heintus
Mae rhywbeth yn bod ar Owain Glyndŵr. Byth ers i’r gwartheg gyrraedd, mae ei groen e wedi ffrwydro â phlorod. Ych a fi. Mae Owain Glyndŵr yn edrych yn ffiaidd. Mae ei wyneb fel un ploryn mawr. Mae e’n ymguddio y tu ôl i’w arfwisg. Mae Daf y gath eisiau byrstio plorod Owain Glyndŵr gyda’i…
