Yn y gwesty, mae’r anfad Mistar Sgidie wedi dwyn esgidiau gwesteion Dewi Sant i gyd. Nawr, mae pawb yn cwyno’n droednoeth wrth Dewi Sant bod eu hesgidiau nhw wedi cael eu dwyn. Ond does neb yn gwybod dim byd am fodolaeth yr anfad Mistar Sgidie. Does dim ots gyda’r Hen Dduw Odin. Dyw e byth…
Month: February 2024
851: Mistar Sgidie
Mae presenoldeb od ar risiau gwesty Dewi Sant. Ysbryd yw e? Efallai. Efallai ddim. Nid yr enwog Owain Glyndŵr mohono. Mae Owain Glyndŵr yn cysgu’n sownd yn ei fag bin. Nid yr enwog Julian Cope mohono chwaith. Mae Julian Cope yn cysgu’n sownd yn ei gromlech. Mae Daf y gath yn gwylio wrth i’r presenoldeb…
850: Pen-blwydd
Mae Santes Dwynwen wedi pobi cacen ben-blwydd. Mae canhwyllau ac eisin ar ben y gacen. Ond ar gyfer pwy mae’r gacen ben-blwydd? Does neb yn gwybod. Pen-blwydd Daf y gath yw e? Nac ydy. Pen-blwydd yr enwog Bryn Teribl yw e? Nac ydy. Pen-blwydd yr Hen Dduw Odin yw e? Nac ydy. Fe gafodd Odin…
849: Deifiedig
Mae’r enwog Owain Glyndŵr wedi dringo allan o’i dwll yn yr ardd a’i ail-lenwi â phridd. Mae e’n edrych bach yn ddeifiedig. Ceisiodd trigolion y gwareiddiad colledig ar waelod ei dwll ei goginio mewn dysgl gaserol anferth, ond heb lwyddiant. Digwydd bod, mae ei arfwisg o ddeunydd gwrth-fflam. Mae Santes Dwynwen yn mynnu y dylai’r…
848: Caserol
Mae’r enwog Owain Glyndŵr ar fin cael ei goginio gan drigolion y gwareiddiad colledig a ffeindiodd ar waelod ei dwll yn yr ardd. O diar. Maen nhw wedi cynnau tân a llenwi dysgl gaserol â dŵr oer. – Amser cael bath, Owain, meddai pennaeth y gwareiddiad colledig. – Dim ond bath yw e. Ond dyw’r…
847: Gwall
Mae Owain Glyndŵr wedi darganfod gwareiddiad colledig ar waelod ei dwll yn yr ardd. Ond nid dim ond olion sydd i’w gweld. Gwareiddiad byw yw hwn. Am ryfedd! Ond arhoswch am funud. Pam mae’r trigolion yn cario’r enwog Owain Glyndŵr i ffwrdd? Ydyn nhw’n mynd i’w goginio e? Nac ydyn. Maen nhw wedi ei gamgymryd…
846: Het galed
Mae twll Owain Glyndŵr wedi tyfu. Mae e’n parhau i balu yn syth i lawr gyda’i drywel bach. Pam mae’r twpsyn hwnnw’n dal i balu? Pwy a ŵyr. Efallai ei fod e ar daith i ganol y ddaear. Efallai ddim. Beth bynnag, mae Dewi Sant yn mynnu y dylai’r enwog Owain Glyndŵr wisgo het galed…
845: Twll
Ac yntau’n gwisgo ei arfwisg fwyaf ysblennydd, mae’r enwog Owain Glyndŵr yn brysur yn yr ardd. Mae e’n palu twll yn y ddaear gyda’i drywel bach a dderbynnodd fel anrheg gan Santes Dwynwen. Mae’r twll yn eitha dwfn erbyn hyn. Does dim ond ei ben sydd i’w weld. Mae e’n palu’n frwdfrydig iawn. – Pam…
844: Cyngerdd
Mae’r enwog Bryn Teribl yn ymarfer ariâu operatig ar gyfer ei gyngerdd nesaf. Yn anffodus mae’r enwog Owain Glyndŵr yn mynnu ymuno â’r cytganau. Nid yw’r enwog Owain Glyndŵr yn ganwr da. Mewn gwirionedd mae e’n swnio fel buwch sy’n cael ei ladd mewn lladd-dý. Ble bydd y cyngerdd? Yn ystafell frecwast y gwesty, mae’n…
843: Adolygiad perfformiad
Mae’r gweithredwr yn gadael gwesty Dewi Sant heddiw, ar ôl iddo fe gael epiffani yn y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel. Ond cyn iddo fe fynd, mae Dewi Sant am gynnal adolygiad perfformiad. Dim ond “boddhaol” y mae’r gweithredwr yn derbyn fel sgôr. Mae e’n dechrau cwyno nad oedd ei mesurau perfformio’n ddigon…
