Mae alcemydd wedi dod i aros yng ngwesty Dewi Sant. Mae e wedi dod â’i holl offer arbrofol yn gynnwys sawl tân Bunsen. Beth allai fynd o’i le? – Allech chi droi’r Glyndŵr pedair coes yn aur? gofyn Dewi Sant i’r alcemydd. – Pam? gofyn yr alcemydd. – I’w arafu. Bydde’n haws ‘i ddal. Yn…
Month: February 2024
861: Y Glyndŵr pedair coes
Mae Santes Dwynwen yn canu’r gloch i ddweud bod brecwast yn barod. Mae pawb yn dod ar hast, heblaw am Daf y gath, sydd yn dal i gysgu’n sownd. Pwy sy’n cyrraedd y gegin gyntaf? Yr enwog Owain Glyndŵr, yn naturiol. Ond arhoswch am funud. Mae rhywbeth wedi newid. Gwisgo mwy o golur yw e?…
860: Y Glyndŵr teircoes
Mae’r enwog Bryn Teribl wedi gyrru tractor Dewi Sant yn ôl o’r ysbyty gyda Santes Dwynwen, Owain Glyndŵr a Dewi Sant ei hun yn y trelar. Roedd hi’n anodd iawn dal Owain Glyndŵr nawr bod tair coes gydag e. Mae e’n gallu symud mor gyflym! Ond mae e hefyd yn sefydlog iawn. Efallai byddai’n bosib…
859: Coes ychwanegol
Mae llawdriniaeth Owain Glyndŵr wedi bod yn llwyddiannus, mewn ffordd. Wel, mae e wedi goroesi, o leiaf. Ond beth yw hon? Mae rhywbeth wedi newid. Pam mae tair coes gyda fe? Mae’r llawfeddygon o dan ormod o bwysau, ac fe dderbyniodd Owain Glyndŵr coes newydd yn ystod ei lawdriniaeth ar gam. O diar. Bydd e’n…
858: Llawdriniaeth
Mae pancos Santes Dwynwen wedi cael effaith mor ddifrifol ar yr enwog Owain Glyndŵr fel bod angen llawdriniaeth arno fe. Tra bod yr enwog Bryn Teribl yn parcio tractor Dewi Sant ym maes parcio’r ysbyty, mae Owain Glyndŵr ar ei ffordd i’r theatr llawdriniaeth. Beth mae’r llawfeddyg yn mynd i’w wneud? Pwy a ŵyr. Ond…
857: Ysbyty
Roedd angen cludo’r enwog Owain Glyndŵr i’r ysbyty neithiwr. Beth oedd yn bod arno fe? Roedd e’n dal i ddioddef o salwch oherwydd pancos Santes Dwynwen. Heddiw, mae Daf y gath yn gwylio wrth i Santes Dwynwen a Dewi Sant geisio llwytho’r enwog Bryn Teribl i mewn i drelar. Ond mae’r enwog Bryn Teribl am…
856: Bola tost
Mae gan bawb fola tost. Hynny yw, pawb sydd ar ôl. Yn anffodus, gwnaeth Santes Dwynwen bancos neithiwr. Pwy a ŵyr beth oedd yn y cymysgedd, ond roedden nhw’n drwchus ac yn galed. Mae Dewi Sant yn becso bydd mwy o adolygiadau gwael o’i westy ar TripAdvisor. Ond does dim angen becso am adolygiadau gwael…
855: Herwgipio
Mae gwesty Dewi Sant yn dawel iawn. Does dim presenoldebau od ar y grisiau heno. Does dim esgidiau na sanau bellach. Arhoswch am funud. Ble mae’r anfad Mistar Sgidie? Mae rhywun wedi dwyn Mistar Sgidie! Mae Mistar Sgidie wedi cael ei herwgipio, felly. O diar. Efallai mai Mistar Trowsus a gyflawnodd y trosedd. Nid yw…
854: Sanau
A phawb wedi dygymod â cherdded heb esgidiau, diolch i’r anfad Mistar Sgidie anghofus, mae argyfwng newydd. Nawr, mae rhywun wedi dwyn y sanau i gyd oddi wrth westeion Dewi Sant. Dyw’r gwesty erioed wedi gweld y fath beth o’r blaen. Mae’r anfad Mistar Sgidie’n gwadu popeth. Pwy allai fod wedi dwyn y sanau i…
853: Cleptomaniad
Pam mae’r anfad Mistar Sgidie’n dwyn cymaint o esgidiau? Hen ysbryd cleptomanaidd yw e. Hen ysbryd cleptomanaidd â chwant esgidiau. Ond ble mae’r esgidiau nawr? Wel, dyna broblem. Dyw cof yr anfad Mistar Sgidie ddim cystal. Hen ysbryd anghofus yw e. Rhaid eu bod nhw yn rhywle. Meddyliwch yn galed, Mistar Sgidie! Saesneg / English…
