Gan fod y cathod bach yn y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel, mae Jeff y gath yn ceisio dysgu’r enwog Owain Glyndŵr i hela. Dyw pethau ddim yn mynd yn dda. Ynfytyn yw Owain Glyndŵr. Ceisiodd Jeff esbonio sut i hela llygod, ond dim ond neidio i fyny ac i lawr yn yr…
Month: February 2024
871: Tiwtoriaid
A hithau wedi cymryd lot gormod o Dreamies seicedelig, fel arfer, mae Daf y gath eisoes yn y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel pan mae’r llu o gathod bach yn cyrraedd. – Gan bwyll, y cathod bach, meddai Daf, sydd am fynd yn ôl i gysgu seicedelig. Ond mae’r cathod bach yn parhau…
870: Taith annisgwyl
Mae Jeff y gath wedi sefydlu ysgol hela mewn adeilad newydd yn yr ardd. Mae ei disgyblion, sef llu o gathod bach, wedi cyrraedd, ond ‘dyn nhw ddim wedi mynychu gwers eto. Arhoswch am funud, mae’n annisgwyl o dawel. Beth sy’ wedi digwydd? Mae’r cathod bach wedi dod o hyd i Dreamies seicedelig Daf y…
869: Cathod bach
Mae gwesteion newydd wedi cyrraedd gwesty Dewi Sant. Mae stŵr yn codi wrth i Dewi’n trio gwneud i bawb gofrestru ar y system gyfrifiadurol. Mae cathod bach ym mhobman. Myfyrwyr yn yr ysgol hela ydyn nhw. Ond mae pethau disglair yn tynnu eu sylw trwy’r amser. Dydyn nhw ddim hyd yn oed wedi cyrraedd adeilad…
868: Ysgol hela
Ag yntau wedi troi’n Mistar Urdd, mae’r alcemydd-Mistar-Urdd wedi gadael gwesty Dewi Sant ac yn awr yn boddran y plant a’r athrawon mewn ysgolion lleol a’u gorfodi i ddawnsio. Yn y cyfamser, mae Jeff y gath wedi cael syniad da tra ei bod hi’n eistedd yn ei blwch cardbord. Mae hi wedi gofyn i’r Hen…
867: Trawsnewidiad
Mae’r alcemydd yn trio rhywbeth arall fel ei bedwerydd arbrawf. Mae e’n rhoi copi o feibl William Morgan mewn crochan, ychwanegu dŵr, a throi’r cymysgedd. Mae’r alcemydd yn dechrau newid siâp. Mae ei gluniau’n lledaenu. Ac mae e’n dod yn… fwy lliwgar, rhywsut. Arhoswch am funud. Triongl yw’r alcemydd bellach. Triongl coch, gwyn a gwyrdd….
866: Llosgwr
Mae’r gwesty ar dân. Aeth e ar dân yn gyflym iawn, ar ôl trydydd arbrawf yr alcemydd. – Ti ddim yn alcemydd go iawn, w’t ti? gofyn Daf y gath i’r alcemydd. Mae’r alcemydd yn cochi at ei glustiau. – Nadw, meddai’n dawel. – Fi jysd yn hoffi rhoi pethe ar dân. – Llosgwr w’t…
865: Dwyn
Mae pawb yn nerfus iawn. Mae pethau yn yr ystafell grand yn parhau i fynd ar dân. Mae arogl cryf o fwg trwy’r gwesty cyfan. Mae Daf y gath yn gynddeiriog, gan fod yr alcemydd wedi dwyn mwy o Dreamies oddi wrthi hi. Ydy’r alcemydd yn bwriadu troi’r Dreamies yn aur? Nac ydy. Mae e’n…
864: Yr ail airbrawf
Yn yr ystafell grand, mae arogl mwg cryf yn hongian yn yr awyr. Mae’r alcemydd wedi llosgi soffa orau Dewi Sant yn ulw. Ond dyw e ddim wedi troi dim byd yn aur. O diar. Mae e’n penderfynu ceisio troi rhai o Dreamies Daf y gath yn aur. Mae e’n paratoi’n ofalus ac ailadrodd y…
863: Yr arbrawf cyntaf
Mae Dewi Sant wedi rhoi ystafell grand i’r alcemydd, ymhell o’r gwesteion eraill. Mae e’n poeni bydd yr alcemydd yn rhoi rhywun ar dân ar gam. Nid yw ei bryder yn ddi-sail. Wrth i’r alcemydd ymgymryd â’i arbrawf cyntaf, mae Daf y gath yn gweld mwg yn llifo allan o ffenestr yr ystafell grand. Mae’n…
