Fel mae’n digwydd, mwynheuodd Odin ei Dreamies cyntaf, felly mae Daf y gath wedi rhoi catnip iddo fe hefyd. O diar. Mae catnip yn gryf iawn yn Sir Benfro. Gan nad yw Odin yn gyfarwydd â fe, mae e’n mynd ar daith seicedelig yn syth. Mae’n amser iddo fe arwain sesiwn erobig dŵr arall. Ond…
Month: January 2024
820: Dianc
Fel y mae’r enwog Owain Glyndŵr ar fin dechrau arwain sesiwn erobeg dŵr arall yn y sba, mae Odin yn ailymddangos. Mae llawer o gymeradwyaeth. Mae pawb yn hapus ei fod e wedi dod yn ôl, yn bennaf y bobl henoed yn y dosbarth, sydd wedi cael hen ddigon o sblasio o gwmpas gyda’r enwog…
819: Rhieni
Er bod angen slapio’r efeilliaid bob hyn a hyn, mae Odin wedi bod yn cael amser da wrth arwain sesiynau erobig dŵr yn y sba. Dyw gwesty Dewi Sant erioed wedi bod mor brysur. Ond yn anffodus, mae rhieni Odin wedi troi lan i’w gasglu. O diar. Pobl annigrif ydy Mr. a Mrs. Odin. Nid…
818: Erobeg dŵr
Mae Daf y gath yn clywed sŵn sblasio yn dod o’r sba, ynghyd â cherddoriaeth wael. Beth sy’n digwydd? O diar. Ar ôl iddo fe gwblhau’r gwaith adeiladu, mae’r Hen Dduw Odin yn parhau i aros yng ngwesty Dewi Sant, ac mae e nawr yn arwain sesiwn erobeg dŵr yn y pwll nofio. Roedd y…
817: Pwll nofio
Gweithiodd Odin tan berfeddion nos er mwyn iddo fe gwblhau’r sba newydd ar gyfer gwesty Dewi Sant. Bydd y costau y tu hwnt i’r dychymyg. Er mai Hen Dduw yw e, nid yw Odin yn adeiladwr dawnus. Siambls yw’r sba newydd, â dweud y gwir. Dyw’r teils ddim yn syth, ac mae’r gwaith trydan yn…
816: Odin
Mae Odin wedi dod i westy Dewi Sant ar wahoddiad yr enwog Julian Cope. Mae Dewi Sant yn teimlo braidd yn nerfus. Beth mae’r Hen Dduwiau’n fwyta i frecwast? Dyw e ddim yn gwybod. Gobeithio gwneith e fodloni ar gwstard Santes Dwynwen. Bydd Odin yn eu helpu nhw trwy adeiladu sba ar gyfer y gwesty….
815: Sba
Mae Dewi Sant wedi ei gynhyrfu gad adolygiad y milfeddyg. Ond mae’r enwog Julian Cope wedi cael syniad. – Allen ni ofyn i’r hen Dduwiau ein helpu ni, meddai’r arch-ddrŵd. – Sut felly? gofyn Dewi Sant. – Trwy adeiladu sba ar gyfer y gwesty. – Ydyn nhw ar gael ar y penwythnos? – Ydyn. Mae…
814: Adolygiad y milfeddyg
“Yn ddiweddar, treuliais i wythnos yng ngwesty Dewi Sant pan o’n i ar fy ngwyliau yn Sir Benfro. Twll o le yw’r gwesty. Ces i fy synnu gan bresenoldeb sawl ffigwr hanesyddol yn y gwesty. O’n i’n meddwl taw dim ond enw’r lle oedd Gwesty Dewi Sant, ond nac oedd; mewn gwirionedd, y Dewi Sant…
813: Bwyell
Neithiwr, ceisiodd y milfeddyg sydd yn aros yng ngwesty Dewi Sant roi triniaeth chwain i’r enwog Owain Glyndŵr. Fel arfer, dim ond rhedeg i ffwrdd cyn gyflymed â phosib wneith yr enwog Owain Glyndŵr. Ond nid y tro ‘ma. Ar ôl iddo fe gael ei ddilyngyru, mae e wedi cael hen ddigon. Wrth i’r milfeddyg…
812: Triniaeth chwain
Mae’r enwog Owain Glyndŵr wedi cael ei ddilyngyru gan y milfeddyg sy’n aros yng ngwesty Dewi Sant. Yn anffodus mae chwain arno fe hefyd. O diar. – Pryd oedd y tro diwetha i chi roi triniaeth chwain iddo fe? gofyn y milfeddyg i Santes Dwynwen. Wrth glywed y geiriau “triniaeth chwain”, mae’r cathod yn diflannu….
