Mae Odin wedi ceisio adeiladu ffwrnais chwyth yng ngardd y gwesty. Ond yn anffodus does dim tanwydd. Felly dim ond tiwb mawr yw e mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, mae’r enwog Julian Cope yn myfyrio yn y ffwrnais chwyth. Mae e’n dweud bod y tiwb enfawr yn gosmig. Efallai ei fod e ar ei…
Month: January 2024
830: Adeiladu
Does dim gwesteion yn y gwesty dros y penwythnos yma. Am gyfleus! Mae angen bach o hoe ar bawb nawr bod y tiwtoriaid Cymraeg wedi mynd. Pawb, hynny yw, ond yr Hen Dduw Odin, sy’ wedi bod yn brysur yn yr ardd. Mae Odin wedi bod yn adeiladu rhywbeth. Ond beth mae e wedi adeiladu?…
829: Tric
Mae’r enwog Julian Cope wedi bod yn helpu Daf y gath gyda’i chynllun i gael gwared ar y tiwtoriaid Cymraeg sydd yn aros yng ngwesty Dewi Sant. Niwsans ydyn nhw. Mae Julian Cope wedi dylunio poster sy’n hysbysebu gig ffug yng Nghrymych gan hoff grŵp pob tiwtor Cymraeg, sef y Pandas Pinc. Mae’r tiwtoriaid yn…
828: Gramadeg
Mae’r tiwtoriaid Cymraeg sy’n aros yng ngwesty Dewi Sant wedi bod yn ceisio dysgu bach o ramadeg i’r enwog Owain Glyndŵr. Doedd e ddim yn dderbyngar. Byddai’n well gyda fe chwarae gyda’i geir bach yn yr ardd, felly mae’r tiwtoriaid yn troi eu sylw at Daf y gath. Ond mae Daf y gath yn casáu’r…
827: Treiglad newydd
Gan fod Daf y gath wedi dianc rhagddyn nhw, mae’r tiwtoriaid Cymraeg sy’n aros yng ngwesty Dewi Sant yn ceisio dysgu Jeff y gath am dreigladau. Does ganddyn nhw mo’r help. – Fi ‘di darganfod treiglad newydd, ch’mo, meddai Jeff. – Y’ch chi’n gyfarwydd â’r treiglad â llaw? – Y treiglad â llaw? Beth ydy…
826: Penglogau
Mae’r tiwtoriaid Cymraeg sy’n aros yng ngwesty Dewi Sant wedi bod yn dadbacio penglogau ceffylau. Mae darnau o geffylau wedi marw dros y lle i gyd. Ac nawr, maen nhw wedi dechrau paentio’r penglogau mewn lliwiau amrywiol. Pam maen nhw’n gwneud yr hyn maen nhw’n wneud? O diar. Maen nhw’n gorfodi Daf y gath i…
825: Tiwtoriaid
Mae Dewi Sant yn mynd o’i gof. Mae grŵp o diwtoriaid Cymraeg newydd gyrraedd ei westy, ac maen nhw eisoes wedi bod yn cywiro pawb a phopeth. Does ganddyn nhw mo’r help. Yn lle ymlacio yn y sba, maen nhw’n trefnu eu taflenni ac adnoddau ar y byrddau yn y fynedfa. Mae’r arweinydd yn ceisio…
824: Ofn
Mae Dewi Sant yn myfyrio ar yr wythnos a fu yn ei westy. Mae’r sba wedi bod yn llwyddiant ysgubol, er bod y gwaith trydanol braidd yn beryglus. Bydd angen llawer o waith cynnal a chadw, ond, diolch byth, mae Odin wedi cytuno i aros gyda nhw a gweithio fel dyn mân swyddi. – Pwy…
823: Adolygiad TripAdvisor Mrs. Ifans
Arhosais yn ngwesty Dewi Sant am bedair noson. Gan fy mod yn hoff iawn o gwstard, mwynheais y brecwastau’n fawr, ac roedd Santes Dwynwen yn wasanaethgar tu hwnt. Cynghorwn unrhyw deithwyr eraill i fod yn ofalus yn y sba. Os bydd yr enwog Owain Glyndŵr yn arwain y sesiynau erobig dŵr, bydd yn bwysig iawn…
822: Gwely
Mae Mrs. Ifans wedi bod yn aros yng ngwesty Dewi Sant yr wythnos ‘ma. Mae hi wedi cael amser da iawn. Mae hi wedi mwynhau gweld cefn gwlad Sir Benfro, a mwynheuodd hi’r sesiynau erobig dŵr, hyd yn oed y rhai a arweinwyd gan yr enwog Owain Glyndŵr. Mae hi wedi pacio ei bag hi,…
