Mae mwy o bandas wedi troi lan. Dyma grŵp arall o bandas, wedi’u gwisgo mewn gwisgoedd eglwysig. Maen nhw wedi dod â’u gitarau hefyd. O diar. – Pwy ydyn nhw? gofyn Daf y gath i’r enwog Julian Cope. – Pandas y Pab ydyn nhw, meddai Julian Cope. – Maen nhw’n beryglus iawn. Maen nhw’n dechrau…
Month: October 2023
734: Anarchiaeth
Mae’r Pandas Pinc yn parhau i chwarae cerddoriaeth drone metal leddfol. Mae’r sombis yn hoff iawn o gerddoriaeth drone metal, ond dyw’r cathod ddim. Mae’n atgoffa Daf y gath o’r Hwfr. Yna, mae grŵp arall o bandas yn troi lan. Maen nhw’n edrych yn dreisgar a gwisgo llawer o glustlysau. Y Pandas Pync ydyn nhw!…
733: Byddarol
Ar ôl i’r sombis dreiglo’n feddal a mynd yn fflyffi fel tedis arth, mae ‘na sŵn byddarol. Mae’r band y Pandas Pinc wedi troi lan, ac maen nhw wedi dod â’u gitarau gyda nhw. Maen nhw’n chwarae cerddoriaeth hair metal ofnadwy o hectig o’r wythdegau. Yn Gymraeg. Mae’r enwog Julian Cope yn cynnig rhai o’i…
732: Abwyd
Mae Daf y gath yn mynd i ddefnyddio trelar llawn o diwtoriaid Cymraeg fel abwyd er mwyn tynnu sylw cannoedd o sombis oddi ar Dewi Sant a’i amlosgfa. Mae’r sombis yn dechrau ymlusgo tuag at yr abwyd. Maen nhw’n cymryd yr abwyd. Maen nhw’n dechrau bwyta ymenyddiau’r tiwtoriaid Cymraeg. Mae llawer o sgrechian. Yna, mae’r…
731: Gwarchae
Mae amlosgfa Dewi Sant dan warchae gan gannoedd o sombis sydd am fwyta ymenyddiau byw, ac mae Jeff y gath yn ymguddio mewn bwced. Er bod pawb arall yn gwisgo arfwisg ysblennydd, mae gormod o sombis i’w trechu. Felly pwy sy’n mynd i drechu’r sombis? Dyma Daf y gath a’r enwog Julian Cope, yn dychwelyd…
730: Sombis
Yn anffodus, tra bod Daf y gath ar ei thrip seicedelig yng nghwni’r enwog Julian Cope, mae amlosgfa Dewi Sant yn heidio gan sombis. Pla o sombis. Mae pla o sombis yn waeth na phla o diwtoriaid Cymraeg. Maen nhw eisiau bwyta ymenyddiau. Ond o leia nad ydyn nhw’n poeni am dreigladau. Mae Dewi Sant…
729: Gadael y llwyfan
Mae’r enwog Julian Cope a Daf y gath yn gwylio’r band Y Pandas Pinc ar lwyfan yn y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel. Yn sydyn, mae pla o diwtoriaid Cymraeg yn ymddangos. Mae’r tiwtoriaid yn amgylchynu’r llwyfan. Maen nhw’n gorfodi’r band i adael y llwyfan. – Be sy’n bod? gofyn Daf y gath….
728: Bychan
Yn ôl y profiadol Julian Cope, mae’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel i fod yn wlad hud a lledrith, gyda chofebion Oes y Cerrig ym mhobman. Ond mae damcaniaeth Julian Cope yn anghywir. Nid am y tro cyntaf. Yn lle hynny, mae’r dref dan ei sang â dysgwyr Cymraeg, sydd wedi ymgasglu i…
727: Y Crymych arall
– Fi ‘di bod yma o’r blân, meddai Daf y gath wrth yr enwog Julian Cope, wrth i’w gromlech lanio yng Nghrymych. – Ond we fi ddim ar drip seicedelig ar y pryd. – Ti ddim, meddai Julian Cope, – achos taw dyma’r Crymych arall. – Y Crymych arall? Beth yw’r gwahaniaeth? – Tua chwe…
726: Tu hwnt i’r gorwel
Ar drip seicedelig, Mae Daf y gath a’r enwog Julian Cope yn hedfan tuag at y gorwel yng nghromlech Owain Glyndŵr ar gyflymder o ugain milltir yr awr. Maen nhw’n mynd i ateb cwestiwn pwysig, sef beth sydd y tu hwnt i’r gorwel? Yn ôl Julian Cope, bydd cofebion Oes y Cerrig di-ri. Ond mewn…
