Mae’r enwog Julian Cope wedi troelli gofod-amser gyda’i gyffuriau cryfion, sy’n golygu bod hi’n bosib rhoi peiriant clonio Daf y gath y tu mewn iddo’i hun mewn dimensiwn arall. Mae Daf yn gwasgu botwm coch, ond dyw hi ddim yn sicr ym mha ddimensiwn yw e. Yn sydyn, mae’r peiriant yn dechrau creu peiriannau clonio…
Month: October 2023
744: Clonio arbrofol
Yn ei labordy, mae Daf y gath wrthi’n arbrofi gyda’i pheiriant clonio newydd sbon a brynodd hi ar-lein. Does dim ond iddi roi rhywun yn y siambr glonio a gwasgu botwm mawr coch, ac mewn chwinciad, dyna glôn! Hwrê! Bydd hi’n hawdd creu miliwn o siaradwyr Cymraeg fel hyn. Bydd y llywodraeth mor hapus. Erbyn…
743: Cyfaddawd
Mae Daf y gath yn parhau â’i chynllun i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg drwy eu clonio nhw yn ei labordy. Mae hi wedi dod i gytundeb gyda’r enwog Bryn Terfel drwy gyfaddawdu ynglŷn ag adeiladu llwyfan yn y labordy. Fel rhan o’r proses profi, derbyn pob un o’r clonau het ysblennydd, camu i’r llwyfan…
742: Clonio
Mae Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd. Mae hi am sefydlu labordy. Mae hi am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg trwy eu clonio nhw. Mae hynny’n sicr o ennill bach o arian, neu gymhorthdal neu ddau. Mae hi wedi perswadio Dewi Sant i brynu adeilad newydd, hyd yn oed. Ond mae problem….
741: Continwwm
Mae Owain Glyndŵr wedi bod yn brysur iawn. Mae e wedi bod yn amlosgi pethau amrywiol yn ffwrn amlosgfa Dewi Sant. Am hwyl. Ond erbyn hyn mae e wedi amlosgi popeth sy’n amlosgiadwy, yn gynnwys Dreamies Daf y gath hyd yn oed. Yna, mae Owain Glyndŵr yn cael syniad. Dyw e ddim yn cael syniadau…
740: Yr hen ardd
Yn yr hen ardd, mae cyn-staff y cathod yn edrych allan trwy’r ffenestri’n gegrwth. Mae pethau wedi gwaethygu. Mae Eifion Sant, sef Eifion yr octopws, yn ymddwyn fel rêl deyrn o folwsg. Mae e mor drahaus. Mae’r tatws yn gweld eisiau Daf y gath. Does dim arweinwr gyda nhw dim mwy. Heb neb i’w lywio…
739: Gludiog
Mae’r enwog Owain Glyndŵr yn cael hwyl wrth amlosgi pethau amrywiol yn ffwrn amlosgfa Dewi Sant. Beth sydd ar y fwydlen heddiw? Cwstard ombeidus Santes Dwynwen sydd ar y fwydlen! O na. Dyw hylifau ddim yn amlosgi’n dda, Owain! Cyn bo hir, mae’r cwstard yn gorferwi. Mae’r tu fewn i’r ffwrn a’r llawr yn ludiog…
738: Hwyl
Mae’r enwog Bryn Terfel a’i efell, yr enwog Owain Glyndŵr, wedi bod yn cael amser da y tu fewn i amlosgfa Dewi Sant. Beth maen nhw wedi bod yn gwneud? Maen nhw wedi bod yn amlosgi pethau amrywiol yn y ffwrn! Bob tro bydd Owain Glyndŵr yn amlosgi rhywbeth yn llwyddiannus, bydd e’n gwneud lap…
737: Gwyrth
Mae haid o ddysgwyr Cymraeg wedi troi lan. Maen nhw wedi clywed bod y Pandas Pinc yn chwarae gigs yng ngerddi amlosgfa Dewi Sant, ac fel mae pawb yn gwybod, y Pandas Pinc yw hoff fand dysgwyr Cymraeg, o leia cyn iddyn nhw ddarganfod Datblygu. Ond mae’r Pandas Pinc wedi mynd i’r Crymych Arall y…
736: Dan eu sang
Erbyn diwedd yr wythnos, mae gerddi amlosgfa Dewi Sant dan eu sang â phandas. Maen nhw i gyd wedi dod â’u gitarau. O diar. Mae’r sŵn yn ofnadwy. Yn annisgwyl, mae’r enwog Julian Cope wedi rhedeg mas o gyffuriau seicedelig i’w tawelu, achos fod y pandas gwreiddiol, sef y Pandas Pinc, wedi cymryd y cyfan….
