Mae Dewi Sant wedi ail stocio ei siop lyfrau. Ond mae prinder o bapur ac felly mae prinder o lyfrau. Ond mae rhai llyfrau’n cael eu hargraffu o hyd. Mae Daf y gath yn syllu ar bentwr o gopïau o’r llyfr “Cwyno a llefain” gan ryw dywysog neu’i gilydd. Mae’r llyfrau’n enfawr achos eu bod…
Month: August 2023
683: Angheuol
Mae pla o bryfed llyfr yn siop lyfrau Dewi Sant. Yn anffodus mae’r pryfed yn rhydd rhag hylif Jeyes. Mae’r enwog Bryn Terfel yn dod allan o’r cwpwrdd lle mae e wedi bod yn ymguddio a gweld Owain Glyndŵr yn llefain yn ei ddyrnfolau ynfytyn. Mae rhaid iddo ddatrys y broblem. Mae e’n dechrau canu…
682: Hylif
Mae Owain Glyndŵr yn dychwelyd i siop lyfrau Dewi Sant yng nghwmni’r hen fenyw wnaeth ei fenthyg ef. Mae e’n gwisgo dyrnfolau ynfytyn, a chario potel las. Hylif Jeyes sydd yn y botel. Paid ag yfed yr hylif Jeyes, Owain! Er ei fod yn dwpsyn, mae Owain Glyndŵr yn arllwys yr hylif Jeyes dros y…
681: Argyfwng
Yn siop lyfrau Dewi Sant, mae’r pryfed llyfr wedi cymryd drosodd. Mae Dewi Sant yn ymguddio mewn cwpwrdd gyda Santes Dwynwen, Jeff y gath, a’r enwog Bryn Terfel. Mae Daf y gath yn dychwelyd o Ffrainc a gweld yr holl lanast. Mae’r pryfed wedi bwyta a threulio bron i bopeth. Hynny yw, popeth ac eithrio’r…
680: Pryfed llyfr
Mae pla o bryfed llyfr yn siop lyfrau Dewi Sant. Mae Dewi yn ceisio eu lladd nhw gyda’i daniwr sigaréts, ond maen nhw’n rhy gyflym. – Mae hyn yn hunllefus, meddai Dewi. – Maen nhw ‘di bwyta hanner y farddoniaeth yn barod. – ‘Co ti, meddai Jeff y gath. – Dyma lyfr am ladd pryfed…
679: Maes awyr
Mae Daf y gath yn mynd i Ffrainc er mwyn prynu stoc ar gyfer siop lyfrau Dewi Sant. Yn sydyn, mae’n debyg bod galw cynyddol am lyfrau Ffrangeg yn yr ardal. Mae hi’n cael ei thynnu at un ochr wrth iddi fynd drwy sganiwr diogelwch. O diar. Mae gormod o Dreamies yn ei bag hi,…
678: Benthyg
Mae hen fenyw wedi dod i siop lyfrau Dewi Sant. Mae hi’n wedi ceisio prynu’r enwog Owain Glyndŵr, ond dyw Dewi Sant ddim am ei werthu. – Y twpsyn, meddai Daf y gath, – byddai hynny wedi bod yn gyfle da i gael gwared ar y lleban plagus. – Ond dyfais gomig ddefnyddiol yw e,…
677: Cwsmer
Mae cwsmer yn siop lyfrau Dewi Sant. Am annisgwyl! Hen fenyw yw hi. Mae hi’n gwisgo cot law, menig, a’r fath o “het hen fenyw” o’r pumdegau sydd yn ymddangos yn aml mewn siopau elusen. Mae hi’n chwilio’r silffoedd am sbel, cyn mynd at y til gyda rhywbeth trwm. – Hoffwn i brynu hwn, plis,…
676: Dysgu
Yn siop lyfrau Dewi Sant, mae’r enwog Owain Glyndŵr yn dysgu darllen. Myfyriwr drwg yw e. Mae e’n gwrthod eistedd yn llonydd. Byddai’n well gyda fe ddringo’r silffoedd. – Ma fe angen swydd go iawn, meddai Daf y gath wrth Dewi Sant. – Rhaid bod ‘na rywbeth all e neud yn y siop. – Byddai…
675: Siop lyfrau
Mae Dewi Sant wedi prynu siop lyfrau. Does dim angen dweud ei bod hi eisoes yn drewi o sigaréts a chwrw. Mae Santes Dwynwen yn mynd i reoli’r adran goginio. Mae mwy o lyfrau am gwstard na fyddai neb eu disgwyl. Nac angen. Mae Daf y gath wedi cael ei hysbrydoli gan y llyfrau barddoniaeth….
