Roedd Daf y gath wedi bod yn gobeithio na fyddai’r enwog Owain Glyndŵr yn cymryd rhan yn ei Heisteddfod hi. Ond dyma fe, ac mae e am berfformio camp ar y llwyfan. Does dim cystadleuaeth gampau yn yr Eisteddfod, ond does dim ots gyda’r enwog Owain Glyndŵr. Mae e’n rhedeg i’r llwyfan a gwneud rholiad…
Month: August 2023
673: Dyn y siwgr
Mae Dewi Sant am berfformio yn Eisteddfod Daf y gath. Nid yw hyn yn syniad da, fel arfer. Ond am unwaith mae Dewi yn sobr. Yn gwisgo sbectol haul a het, mae e’n mynd â gitâr acwstig i’r llwyfan a dweud rhywbeth annealladwy am “ddyn y siwgr”. Yna, mae e’n troi ei gefn ar y…
672: Ciwio
Yn Eisteddfod Daf y gath, mae’r gystadleuaeth ciwio ar fin dechrau. Bydd coron a phopeth. Mae Daf yn tanio canon anferth i gyflwyno dechreuad y gystadleuaeth. – Mae’n syniad athrylithgar, meddai Jeff ei chwaer. – Fydd neb yn cwyno am y ciwiau bellach. Mae’r syniad mor llwyddiannus nes bod rhai aelodau Merched y Wawr yn…
671: Gorsedd y beirdd
Wrth i Eisteddfod Daf y gath barhau yn uffern, mae rhywbeth – neu rywun – yn dechrau codi stŵr. O na. Wedi cael eu hatynnu gan y farddoniaeth wael, mae Gorsedd y Beirdd uffern wedi troi lan, ac mae chwant bisgedi arnyn nhw. Yn anffodus, dydy Merched y Wawr ddim wedi gwneud bisgedi’r tro hwn….
670: Cystadleuaeth
Mae safon y farddoniaeth mor wael nes bod angen ar Daf y gath newid y drefn yn Eisteddfod uffern. Yn lle gwrando ar gerddi diflas, mae Daf y gath yn cynnig gwobr i bwy bynnag all gwthio nifer mwyaf o broceri poeth i lan bardd. Wel. Am gystadleuaeth. Annwyl ddarllenwyr, mae’r nifer yn llawer uwch…
669: Barddoni
Mae Eisteddfod Daf y gath yn llwyddiant llwyr. Mae popeth yn troi fel deiol, hyd yn oed gwerthiannau cwstard Santes Dwynwen. Yn annisgwyl, mae amser sbâr gyda Daf, felly bant â hi i weld beth sydd yn digwydd ar Faes P, sef Maes y Proceri Poeth. Mae rhes o feirdd uffernol yn aros am eu…
668: Eisteddfod uffern
Mae Daf y gath wedi cael syniad da iawn am ennill bach o arian. Eisteddfod bydd ei menter nesaf – eisteddfod uffern. Bydd hynny’n ennill digon o arian iddi brynu bag enfawr o Dreamies, bownd o fod. Mae’r enwog Bryn Terfel a’i efell Owain Glyndŵr yn dychwelyd o’u teithiau a gweld pafiliwn yn cael ei…
667: Ffrainc
Wedi cael ei saethu allan o ganon y belen canon ddynol yn y syrcas, mae’r enwog Bryn Terfel yn glanio yn Ffrainc. Yn ffodus, mae ein hoff ganwr opera wedi canu yn Ffrangeg o’r blaen, a gwybod tamaid bach am ddiwylliant Ffrengig. Mae e’n mynd i fwyty a gofyn am gawl winwns. – Vous êtes…
666: Rhif y Bwystfil
Mae Santes Dwynwen a gweddill aelodau Merched y Wawr wedi bod yn trio glanhau uffern. Roedd y lle’n llanast llwyr. Mae cythreuliaid yn fwytawyr blêr. Ond mae gormod o lanast i’r menywod ddelio gyda fe. Mae angen help. Dyw’r cathod ddim am helpu. Mae Daf y gath yn alergaidd i helpu, ac mae Jeff ei…
665: Damwain
Mae’r enwog Bryn Terfel wedi cael damwain ar y trapîs yn y syrcas. O diar. Beth ddigwyddodd? Roedd e’n gwneud ei act arferol yn ei wisg Siôn Corn pan welodd e het ysblennydd ar ben rhywun yn y gynulleidfa. Roedd yr het fel tun rhostio, ond yn well fyth. Anghofiodd cydio yn y trapîs. Hwyliodd…
